Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglenni Gadd. Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt.
Mae’r cwrs Cerameg a Gemwaith: Gwneuthurwr 3D yn ymwneud â dysgu trwy wneud ac arbrofi â deunydd. Cyflwynir gweithdai ymarferol, sy'n dysgu prosesau traddodiadol a chyfoes mewn cerameg a gemwaith, i grwpiau bach, lle mae myfyrwyr yn archwilio eu syniadau a photensial dylunio trwy wneud 3D mynegiannol.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan-Amser
Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser
Campws Ffynnon Job
Nodweddion y Rhaglen
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r cwrs yn cynnal datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Byddwch yn cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad i weithdai cerameg a gemwaith pwrpasol. Mae'r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer castio slipiau a gwaith plastr, gwneud gemwaith, enamlo a chastio metel, taflu, labordy gwydredd, amrywiaeth helaeth o odynau nwy a thrydan, cyfleusterau tanio racw ac mewn pydew, torri â laser a thechnoleg printio decal cerameg a metel o’r radd flaenaf.
Cynnwys y Rhaglen
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai. Mae’r flwyddyn yn cynnwys saith modiwl: Technolegau Cerameg, Deunyddiau a Dulliau Gemwaith, Cynhyrchion Cerameg, Cyfryngau Cymysg 3D: Gwrthrych a Chydosodiad, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) y swyddi sydd ar gael yw dylunydd gwneuthurwr 3D annibynnol, artist neu ddylunydd cerameg a gemwaith, crochenydd stiwdio, gwneuthurwr modelau ar gyfer theatr a ffilm, dylunydd ategolion, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, prynwr adwerthu, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.
Nid oes ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.