Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglen Radd sy’n canolbwyntio ar arferion Celfyddyd Gain. Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn.
Trwy astudio pynciau traddodiadol fel bywyd llonydd a phaentio ffigyrau, mae myfyrwyr yn dysgu trwy arbrofi mewn amgylchedd addysgu hwyliog a chynhwysol i drin paent, lluniadu a gwneud printiau. Mae sgiliau lluniadu cynrychioliadol trwy arsylwi bywyd go iawn yn agos yn cael yr un pwysigrwydd â dulliau cysyniadol ar gyfer gwneud celfyddyd gain gyfoes.
Mae paentio, lluniadu, gwneud printiau, gwaith gosod, celfyddyd safle-benodol a chelfyddyd gain trawsddisgyblaethol yn cael eu croesawu yn y ddisgyblaeth eang hon i alluogi arbenigo, ac i fynd i'r afael â dewisiadau unigol a'r posibilrwydd o weithio ar draws ffiniau a thechnolegau i ddilyn eich diddordebau personol.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan-Amser
Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser
Campws Ffynnon Job
Nodweddion y Rhaglen
Mae'r staff yn weithwyr proffesiynol sydd â phroffiliau arddangos parhaus a rhyngwladol. Mae ein hysgol gelf yn cynnig lleoedd gwaith unigol a stiwdios penodol i chi ar gyfer lluniadu’r byw, paentio, a stiwdio brintio bwrpasol ar gyfer gwaith bloc pren, lithograffeg cerrig ac ysgythru.
Mae’r cwrs yn cynnal datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o ran hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i fapio ac ymchwilio i'ch diddordebau eich hun. Mae cyfleoedd ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau cyhoeddus yn eich paratoi'n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posib. Mae’r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol.
Cynnwys y Rhaglen
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai. Mae’r flwyddyn yn cynnwys saith modiwl: Theori Peintio a Lliw, Peintio a Chyfryngau Cymysg, Gwneud Printiau, Prosesau Peintio ag Olew, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os oeddech yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i lwybrau cyflogaeth amrywiol megis artist hunan-gyflogedig, entrepreneur, addysgwr, dylunydd golygfeydd, therapydd celf, gweithiwr sector cyhoeddus, curadur arddangosfeydd, beirniad celf / newyddiadurwr, ymchwilydd celf, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), athronydd, arloeswr ac ati.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gan gynnwys adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.
Nid oes ffioedd stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.