Trwy ddewis astudio gyda ni, nid rhif yn unig ydych chi. Rydym yn ysgol gelf fechan, gyfeillgar, bwrpasol sy’n cynnig ystod eang o gyfleusterau cyfoes, arloesol a thraddodiadol. Mae’r staff, y byddwch chi’n gweithio’n agos â nhw, i gyd â’u hymarfer creadigol proffesiynol eu hunain, sy’n gyson â datblygiadau newydd yn y maes. Bob blwyddyn byddwch chi’n cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad nid yn unig i weithdai gemwaith pwrpasol, ond hefyd i gyfleusterau o fewn meysydd eraill y coleg er mwyn hyrwyddo dull rhyngddisgyblaethol a chydweithredol tuag at wneud. Mae’r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer ffabrigo gemwaith, ffurfio metel, ysgythru, enamlo gyda thechnoleg argraffu decal modern, gwneud mowldiau gyda chyfleusterau castio metel mewnol, torri â laser a’r dechnoleg argraffu 3D safon uchel ddiweddaraf.
Mae’r cwrs astudio’n cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio unigol gyda phwyslais ar grefftwaith a sgil dylunio gemwaith. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio, gan sicrhau creadigrwydd gwybodus. Anogir deialog rhwng adrannau, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio a gweithio arloesol.
Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn teithiau, arddangosfeydd cyhoeddus, digwyddiadau a chystadlaethau arbenigol sy’n eu paratoi'n broffesiynol ar gyfer dyheadau gyrfa yn y dyfodol. Mae’r sgiliau hyn i gyd yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol lle mae meddwl beirniadol a chreadigol a addysgir, a gysylltir yn draddodiadol ag ymarfer celfyddydol, bellach yn cael eu ceisio’n gynyddol ym myd masnach a busnes.