Ffon: 01554 748179

Peintio ac Addurno Diploma L1


Corff Dyfarnu:

CG

Sector:

Addysg bellach

Hyd y Rhaglen:

Blwyddyn yn llawn amser. Dwy flynedd yn rhan-amser.

Cyflenwi Dwyieithog:

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg

Rhaglen Disgrifiad

Mae'r diploma lefel 1 hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau peintio ac addurno cyffredinol.  Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn peintio ac addurno.  Byddwch yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig â pheintio ac addurno i gynnwys paratoi arwynebau i’w haddurno, rhoi paent â brwsh a rholer a gosod papurau sylfaen a phlaen. Hefyd, bydd uned egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu.

Rhaglen Nodweddion

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymhwyster diploma lefel 2 llawn amser a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.

Cynnwys y Rhaglen

Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu

Codi a datgysylltu cyfarpar mynediad a llwyfannau gwaith

Paratoi arwynebau i’w haddurno

Systemau o roi paent â brwsh a rholer ar ardaloedd nad ydynt yn gymhleth

Gosod papurau sylfaen a phlaen

Cynhyrchu gorffeniadau addurnol

Iechyd a Diogelwch a lles mewn adeiladu

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Dull Asesu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.

Gofynion Mynediad

Er nad oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i fyfyrwyr feddu ar lefel dda o sgiliau rhifedd a llythrennedd.   Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.

Blwyddyn Academaidd Cyflenwi Campws Blwyddyn Academaidd Opsiynau cwrs
2019 - 2020 Full Time Ammanford Campus 1 Year Ymholidarllen mwy Gwneud Cais
Campws Cyfeiriad Cod post
Ammanford Campus Dyffryn Road,
Ammanford,
Carmarthenshire
SA18 3TA
Gelli Aûr Campus Gelli Aûr,
Llandeilo,
Carmarthenshire
SA32 8NJ
Graig Campus Sandy Road,
Llanelli,
Pwll,
Carmarthenshire
SA14 4DN
Pibwrlwyd Campus Pibwrlwyd,
Carmarthen,
Carmarthenshire
SA31 2NH
Jobswell Campus Jobs Well Road,
Carmarthen,
Carmarthenshire
SA31 3HY