Coed a Phren

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae Prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu".  Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r dysgwr i ennill gwaith llawn amser yn y Diwydiant Coed a Phren.  Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed.  Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentis.  Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 o fewn y raddfa amser gytunedig.


Nodweddion y Rhaglen



  • Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
  • Bydd yna gyfleoedd i ennill tystysgrif gymhwysedd ychwanegol mewn Cynnal a Chadw a Gweithredu Llif Gadwyn

Dilyniant a Chyflogaeth



Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Addysg Uwch.  Mae esiampl o rai o’r cyrsiau sydd ar gael yn y DU yn cynnwys: -

  • Gwyddorau Coedwig
  • Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd
  • Rheoli Coedwigaeth a Choetiroedd
  • Cadwraeth Coedwigaeth a Choetiroedd
  • Gwyddor Ecolegol (Coedwigaeth)
  • Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy
  • Coedyddiaeth a Choedwigaeth Drefol
  • Rheoli Coetiroedd Iseldir
  • Tystysgrif Dechnegol Lefel 4 mewn Coedyddiaeth

Cynnwys y Rhaglen



Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:-

  • Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Coed a Phren Seiliedig ar Waith
  • Tystysgrif Lefel 3 City & Guilds mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth

Y Sgiliau Hanfodol sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 2
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 2
  • (Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn y gorffennol)

Asesu'r Rhaglen



Bydd y dysgwr yn cael ei asesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.


Gofynion y Rhaglen



Nid oes yna ofynion mynediad penodol ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen Coed a Phren; fodd bynnag, mae yna gymwysterau a/neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr cyn dechrau: -

  • Prentisiaeth Sylfaen mewn Coed a Phren
  • Diploma Lefel 2 mewn Coed a Phren Seiliedig ar Waith
  • NVQ Lefel 2 mewn Coedwigaeth neu Goedyddiaeth
  • Dyfarniad Lefel 2 ar gyfer Uwch Weithredwr ar y Llawr (Cwympo coed, Coed Unigol a Ddadwreiddiwyd a Choed Niferus a Chwythwyd gan y Gwynt)
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Technegau ar gyfer Delio â Choed Difrodedig
  • Profiad ymarferol yn y Diwydiant Coed a Phren
  • TGAU (A*-C)/Safon Uwch

Caiff y rhaglenni eu hariannu'n rhannol gan gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.