Gofal Anifeiliaid Lefel 2

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae'r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid wedi'i hanelu at ddysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i yrfa yn y diwydiant gofal anifeiliaid.    Mae'r llwybr hwn, sy’n defnyddio cyfuniad o sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol, yn darparu llwybr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant gofal anifeiliaid.

Bydd sgiliau ymarferol yn amrywio o drin a ffrwyno anifeiliaid i lanhau eu llety.  Ochr yn ochr â choleg, ymgymerir â phrofiad gwaith o fewn y cymhwyster hwn er mwyn i ddysgwyr ennill profiad o ddiwydiannau ar dir, sy'n amrywio o ffermydd i bractisiau milfeddygol.

Bydd dysgwyr sy'n cwblhau Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn gallu mynd ymhellach yn eu gyrfaoedd trwy ymgymryd â rolau megis twtwyr cwn, cynorthwy-ydd siop anifeiliaid anwes, yn cyflawni ystod o ddyletswyddau gan gynnwys glanhau a chynnal a chadw amrywiaeth o lety anifeiliaid.


Nodweddion y Rhaglen



Yn ystod y cymhwyster Lefel 2, byddwch yn gweithio'n agos gyda'ch cyflogwr ar gyfer profiad gwaith a gyda thiwtoriaid cwrs yn y coleg.  

Disgwylir i chi fynychu’r coleg ar 4 diwrnod yr wythnos am sesiynau gwybodaeth greiddiol ac asesiadau ymarferol.    Mae'r cwrs yn seiliedig ar waith theori a gwaith ymarferol gydag amrywiaeth o anifeiliaid o famaliaid bach i geffylau.

Mae’r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn cynnwys: -

  • Glanhau a chynnal llety anifeiliaid
  • Gwiriadau iechyd ar ystod o anifeiliaid
  • Deall ymddygiad anifeiliaid
  • Iechyd a Diogelwch yn ymwneud â gwahanol feysydd o fewn diwydiannau ar dir

Dilyniant a Chyflogaeth



Mae dilyniant o'r cymhwyster hwn yn ofyniad mynediad ar gyfer cymhwyster Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid.    Gall llwybrau cyflogaeth eraill ddeillio o'ch lleoliad profiad gwaith neu Ddiwydiannau ar dir eraill.


Cynnwys y Rhaglen



Mae modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol: -

Gorfodol:

  • Cynnal iechyd a lles anifeiliaid
  • Bwydo a lletya anifeiliaid
  • Ymddygiad a thrin anifeiliaid
  • Gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid
  • Iechyd a Diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
  • Egwyddorion bioleg anifeiliaid

Modiwlau Opsiynol:

Dewis o un o’r opsiwn canlynol: -

  • Gofalu am geffylau
  • Cyflwyniad i ofalu am anifeiliaid fferm

Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd y tu allan i ofal anifeiliaid.  Cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o sgiliau megis:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif
  • TGAU neu gymhwyster Agored mewn Saesneg a Mathemateg

Asesu'r Rhaglen



Asesir unedau yn ymarferol yng nghanolfan gofal anifeiliaid y coleg, trwy ystod o arsylwadau a phrofion ar-lein i ategu agwedd theori’r cwrs.  Cynhelir yr asesiadau ymarferol ar ystod o anifeiliaid gan gynnwys mamaliaid bach a chwn, gyda'r opsiwn o dda byw, ceffylau neu anifeiliaid.


Gofynion y Rhaglen



  • Cymhwyster Lefel 1 neu 4 TGAU gyda gradd A-D mewn naill ai Mathemateg, Cymraeg neu Saesneg
  • Rhaid i chi allu cyflawni 150 awr o leoliad gwaith
  • Bydd mynediad yn amodol ar gyfweliad ac ar sail aseiniad cyn y cyfweliad
  • Bydd yn rhaid i chi ymgymryd â phrawf diagnostig ar eich sgiliau llythrennedd a rhifedd