Rydym yn talu cryn sylw i'r hyn y mae ein dysgwyr yn dweud wrthym ac rydym wedi gwneud cynnydd ardderchog yn y blynyddoedd diwethaf i gryfhau llais y myfyriwr ar draws ein pum campws. Dal diddordeb dysgwyr gweithredol yw un o'r gwerthoedd craidd sy'n tanategu ein gwaith cynllunio strategol a'n proses o wneud penderfyniadau. Mae gennym enghreifftiau ardderchog o sut mae'r coleg wedi newid dros y blynyddoedd o ganlyniad i ‘lais y dysgwr’. Caiff y rhain eu bwydo yn ôl i'n dysgwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys adroddiadau a phosteri “Dywedoch chi, gwnaethon ni” a arddangosir o gwmpas y campysau, er mai'r dystiolaeth orau bob amser yw gweld gwelliannau a newidiadau positif ar gyrsiau a champysau.
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi roi eich sylwadau a'ch adborth i ni am y coleg, p'un a yw'n dda neu'n ddrwg. Gallech chi gael eich ethol fel cynrychiolydd eich dosbarth a mynychu cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn gyda staff a chynrychiolwyr dosbarth o gyrsiau eraill, gallwch chi bostio cerdyn yn y blwch awgrymiadau; siaradwch â'ch tiwtor neu aelod staff o'r tîm Cefnogi Dysgwyr. Yn syml, gallech chi e-bostio eich sylwadau i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. Rydym yn eich annog i gyfathrebu gyda ni os ydych yn fyfyriwr llawn amser neu ran-amser, boed mewn addysg bellach neu addysg uwch. Y naill ffordd neu'r llall, rydym eisiau cael eich adborth.
Mae gan Goleg Sir Gâr ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae parch yn air a ddefnyddir yn fwy aml nag unrhyw un arall ar bob campws drwy gydol ein blynyddoedd academaidd. Yn ogystal â bod hyrwyddo pob un o'r tri yn thema gyson gan yr holl staff, mae yna nifer o fentrau a digwyddiadau a gynhelir ar hyd y flwyddyn i atgyfnerthu'r negeseuon. Bydd cyfres o wythnosau thematig a sesiynau tiwtorial yn hyrwyddo dealltwriaeth ein dysgwyr. Dyma beth mae Estyn yn dweud amdanom:
‘Mae gan y coleg ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac mae'n herio pob ffurf o wahaniaethu yn effeithiol. Mae'r coleg wedi gweithredu nifer o weithgareddau dysgwyr-ganolog, trwy ymgyrch ‘parch’ y coleg, i hyrwyddo materion cydraddoldeb ymhellach. Mae'r ymgyrch hon yn effeithiol dros ben o ran hyrwyddo a chynnal ethos o oddefgarwch, ansawdd ac amrywiaeth ar draws yr holl gampysau. Mae ganddi effaith ddwys ar ymddygiad dysgwyr a'u dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb’.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn glir. Caiff ei fonitro gan y Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac mae ein Hundeb Myfyrwyr yn mynd ati'n weithredol i wneud yn siŵr y gwneir argraff bositif o ran herio stereoteipiau trwy wahanol is-grwpiau o fewn yr Undeb.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod ein dysgwyr yn dweud wrthym eu bod yn teimlo'n ddiogel pan fyddant yn y coleg.
Mae ein diwylliant o barch yn cael effaith bositif iawn ar ymarweddiad dysgwyr ac mae ymddygiad yn yr ystafelloedd dosbarth, y gweithdai, o gwmpas y coleg ac yn y cymunedau cyfagos yn dda iawn. Disgwylir i bob dysgwr lofnodi ‘Côd Ymddygiad’ y coleg yn ystod eu hwythnos gynefino; byddwch yn gweld dolen gyswllt i'r côd hwn isod.
Yn ystod yr adegau pan fydd dysgwyr yn torri'r Côd Ymddygiad hwnnw, mae gweithdrefn gadarn ar waith i sicrhau bod unrhyw faterion neu ddigwyddiadau yn cael eu trin yn effeithlon ac yn effeithiol. Byddwch chi hefyd yn gweld bod ein ‘Polisi Disgyblu'r Coleg’ ar gael i'w lawrlwytho isod a cheir amlinelliad manwl o'r gweithdrefnau. Mae'r Tîm Cefnogi Dysgwyr yn awyddus i weithio gyda dysgwyr sydd, am ryw reswm neu'i gilydd, yn cael profiad o'r broses ddisgyblu, a byddwn yn ceisio gwneud ein gorau, lle bynnag y bo'n bosibl i sicrhau bod dysgwyr yn cwblhau eu hastudiaethau heb dorri'r côd ymddygiad unwaith eto.
Caiff presenoldeb pob dysgwr ei fonitro'n agos ac rydym yn gosod safon uchel iawn o ran yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych. Rydym yn deall bod yna resymau dilys am absenoldeb yn y mwyafrif o achosion, fodd bynnag, byddwn am weithio gyda'r rheiny nad yw eu presenoldeb yn bodloni'r meini prawf.
Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn cyfathrebu gyda'r coleg pan maent yn mynd i fod i ffwrdd o'r coleg a gofynnwn i chi gysylltu â swyddfa'ch campws erbyn 9.30am fan pellaf, mae'r llinellau fel arfer ar agor ar ôl 8.00am. Caiff pob absenoldeb ei nodi ar gofnodion personol y dysgwr.
Gall cyllid myfyrwyr megis y Lwfans Cynnal Addysg (EMA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) gael eu heffeithio os na fydd dysgwyr yn cyfathrebu gyda ni i roi gwybod am yr absenoldebau. Nid yw erioed o'r blaen wedi bod yn haws i chi gyfathrebu eich negeseuon i ni, gyda'r opsiynau o ffonio, e-bostio neu anfon neges testun nawr ar gael Gallwch chi ddod o hyd i'r manylion isod, a byddem yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r App Cefnogi Dysgwyr sy'n rhoi'r dolenni cyswllt uniongyrchol sydd eu hangen ar gyfer y campysau perthnasol.
Mae timoedd cwrs yn cyflwyno gwybodaeth sy'n benodol i'r cyrsiau a'r campysau yn ystod ychydig ddiwrnodau cyntaf y flwyddyn goleg. Bydd aelod staff o'r tîm Cefnogi Dysgwyr hefyd yn siarad â phob grŵp newydd, fel arfer am tua hanner awr, i gyflwyno negeseuon allweddol ar y pynciau canlynol.
Bydd peth deunydd ychwanegol hefyd ar gael ar-lein er mwyn i'r timoedd cwrs allu atgyfnerthu'r negeseuon hyn yn ystod yr wythnosau cyntaf. Ein nod yw trosglwyddo ein negeseuon allweddol i'r holl ddysgwyr, llawn amser a rhan-amser. Mae'r tîm Cefnogi Dysgwyr ar gael bob amser drwy gydol y flwyddyn i drafod unrhyw un o'r pynciau hyn gyda'n holl ddysgwyr.