Prif nod yr academi yw sicrhau bod chwaraewyr ifanc yn derbyn yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn dod yn chwaraewyr ac yn bobl o ansawdd.
Mae Academi Chwaraeon Coleg Sir Gâr yn gysyniad a ddatblygwyd i roi cyfle i fyfyrwyr gyflawni eu potensial llawn ym myd y campau ac yn y maes academaidd fel ei gilydd. Mae strwythur yr academi chwaraeon yn datblygu chwaraewyr ifanc yn y campau pêl-rwyd, pêl-droed a rygbi. Mae hefyd yn cefnogi perfformwyr unigol mewn campau megis athletau, golff, cic-focsio, traws gwlad ac ati.
Mae gan yr academi gysylltiadau ardderchog gyda'i phartneriaid e.e. Undeb Rygbi Cymru (WRU), y Scarlets, Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru (WFT), Cymdeithas Bêl-rwyd Cymru (WNA), Adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Caerfyrddin, Colegau Cymru a Chwaraeon Cymdeithas y Colegau.
Cynhelir sesiynau hyfforddi penodol yn yr academi drwy gydol yr wythnos, gyda'r gemau'n cael eu chwarae ar ddydd Mercher. Daw myfyrwyr yr academi chwaraeon o ystod o gyrsiau a gynhelir ar bum campws Coleg Sir Gâr. Rydym yn cystadlu'n wythnosol mewn cystadlaethau Cymreig a Phrydeinig.
Caiff myfyrwyr yr academi elwa ar ymarfer cryfder a chyflyru a chymorth ffisiotherapi.