Mae ein salonau masnachol yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr Gwallt a Harddwch ymarfer eu sgiliau newydd ar gwsmeriaid sy’n talu, dan oruchwyliaeth ein gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Rydym yn cynnig ystod o driniaethau, o estyniadau ewinedd, rhoi lliw haul, tylino ac adweitheg, i byrmio, lliwio a thorri gan ddefnyddio amrediad o gynhyrchion a gydnabyddir gan y diwydiant.
Mae’r salon yn agored i’r cyhoedd yn ogystal ag i fyfyrwyr a staff sydd i gyd yn gallu manteisio ar y triniaethau gwallt a harddwch diweddaraf am brisiau cystadleuol.
Mae’r gwasanaeth yn gaboledig a chaiff triniaethau eu perfformio i safon uchel gan hyfforddeion sydd wedi ymgymryd ag hyfforddiant trwyadl, sy’n annog ein cwsmeriaid i ddychwelyd bob amser. Mae’r salon yn cynnal hyrwyddiadau a chynlluniau teyrngarwch trwy gydol y flwyddyn.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein hoffi ar https://www.facebook.com/ColegSirGarHairandBeauty/