Skip to main content
Home page slider

Ffoto: Sian Broderick

Home page slider

Ffoto: Sian Broderick

previous arrow
next arrow

Croeso i
Cegin Sir Gâr.

Cegin Sir Gâr yw cyfleuster hyfforddi Coleg Sir Gâr ar gyfer egin-gogyddion a maître d’staff. Mae’r Cegin Sir Gâr yn cynnig bwydlen table d’hote ac mae wedi hen ennill ei blwyf am ansawdd ei fwyd a’i wasanaeth, a gallwch fwynhau prydau o safon bwyty am brisiau rhesymol.

Ers nifer o flynyddoedd mae Cegin Sir Gâr wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr coginio proffesiynol a lletygarwch allu gwasanaethu’r cyhoedd mewn amgylchedd bwyty go iawn, gan roi profiad gwerthfawr iddynt o’r diwydiant ac o ymwneud â chwsmeriaid.

Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i weithio ym mwytai gorau Llundain ac wedi gweithio mewn gwestai a bwytai megis Claridge’s a L’Esgargot.

Mae un cyn-fyfyriwr hefyd wedi gweithio gyda Marco Pierre White ac ar leoliad gyda Gary Rhodes. Mae gan bob un o’r tiwtoriaid yn y coleg brofiad o’r diwydiant. Gyda chefnogaeth gan gyflogwyr, maent mewn sefyllfa dda i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr elfennau ymarferol a theori o weithio yn y diwydiant. Drwy gydol y flwyddyn bydd Cegin Sir Gâr yn croesawu rhai o brif bencogyddion gwadd y sir i weithio gyda myfyrwyr, gan gynhyrchu bwydlenni arbennig a digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd.

Mae gan y bwyty hefyd gyfleuster bach sydd ar gael i’w logi ar gyfer seminarau a chyfarfodydd.

Oriau Agor y Bwyty 2022

Ffoniwch i gadw bwrdd

FFÔN

01554 748620/ 748261

E-BOST

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Cegin Sir Gâr, Campws Pibwrlwyd, Caerfryddin, SA31 2NH

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.