Gwasanaeth clicio a chasglu’r llyfrgell yn llwyddiant mawr
Mae’r gwasanaeth Clicio a Chasglu a ddarperir gan lyfrgelloedd campws Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn profi’n boblogaidd iawn.
Nid yw’n bosibl cadw staff a myfyrwyr yn ddiogel wrth bori silffoedd y llyfrgell ar hyn o bryd ond mae gwasanaeth y llyfrgell yn awyddus i sicrhau fod pawb yn cael y llyfrau maen nhw eu hangen.
Mae’r gwasanaeth Clicio a Chasglu yn cynnig y gallu i ddefnyddwyr y llyfrgell i gadw’r eitemau maen nhw eisiau
drwy fynd ar-lein ac yna derbyn galwad oddi wrth y llyfrgell
pan fyddan nhw’n barod.
Caiff y llyfrau eu darparu wedi’u lapio mewn parsel a gesglir o’r bwrdd ‘Clicio a Chasglu’ table a phan gânt eu dychwelyd bydd staff y llyfrgell yn eu rhoi dan gwarantin am 72 awr cyn eu rhoi nôl ar y silffoedd.
Mae adnoddau darllen yn darparu elfen astudio hanfodol ar gyfer cwblhau cymwysterau gan gynnwys cyrsiau lefel gradd. Mae llawer o’r cyrsiau hyn yn rhai rhan-amser ac maen nhw’n ffitio o gwmpas bywydau prysur myfyrwyr hŷn. Felly mae’r gwasanaeth hwn wedi darparu budd ychwanegol iddynt sy’n arbed amser.
Meddai llyfrgellydd y Coleg Liz Chester: “Mae gennym adnoddau ar-lein gwych ond mae’n bwysig i ni fod myfyrwyr dal yn gallu cael mynediad diogel i’n llyfrau print yn ogystal i gefnogi eu hastudiaethau.”
Llun: Yn defnyddio gwasanaeth clicio a chasglu’r llyfrgell mae Jaimie a Megan, sy’n astudio ar gyfer gradd sylfaen mewn astudiaethau plentyndod ar gampws Rhydaman Coleg Sir Gâr.