Mae myfyriwr busnes yng Ngholeg Sir Gâr wedi ennill Her Arloesi’r DVLA sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Simply Do a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Gwnaeth Davey Hampton, sy’n astudio diploma estynedig mewn busnes, ddarparu datrysiadau i’r DVLA ar gyfer recriwtio mwy o ddynion i rolau gweinyddu.
Cynigiwyd datrysiadau posibl gan Davey a awgrymodd gynnal ymgyrchoedd recriwtio mewn digwyddiadau ble roedd mwy o ddynion yn debygol o fod yn bresennol gan wella niferoedd y ceisiadau oddi wrth ddynion oedd yn ceisio gwaith.
Yn ogystal gwnaeth waith ymchwil i ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar sut mae dynion a menywod yn gwahaniaethu yn eu gweithgareddau hamdden, gan ganiatáu dull mwy targedig o fynd i’r afael â recriwtio.
Meddai Davey Hampton: "Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am ennill Cystadleuaeth y DVLA ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio gyda nhw i wneud fy syniad yn realiti."
Mae Her Arloesi’r DVLA yn rhan o’r Prosiect CELTIC ac roedd yn cynnwys Coleg Gŵyr, Coleg Sir Gâr, NPTC, Coleg Sir Benfro, PCYDDS a Phrifysgol Abertawe.