Skip to main content

Jamie yn ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn chwaraeon

Fe wnaeth myfyriwr hŷn ddarganfod ei ddiagnosis o ddyslecsia drwy broses sgrinio arferol pan ddechreuodd ar radd yng Ngholeg Sir Gâr, ond o gael y cymorth iawn, mae wedi ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn hyfforddi a pherfformiad chwaraeon.

Ymunodd Jamie Bessant â'r cwrs gradd gan ei fod yn lleol ac yn cynnig iddo’r  hyblygrwydd a'r sicrwydd ariannol i allu gweithio ar yr un pryd.

Bellach mae’n paratoi i astudio gradd MSc mewn hyfforddi pêl-droed perfformiad uwch ym Mhrifysgol De Cymru sy’n rhywbeth nad oedd wedi’i gynllunio ar ddechrau ei gwrs gan nad oedd ganddo hyder yn ei alluoedd academaidd.

Yn ogystal mae Jamie’n astudio Trwydded A UEFA drwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac mae’n gobeithio parhau â’i sgiliau hyfforddi a gweithio yn y pen draw yn y maes pêl-droed proffesiynol.

Pe na bai wedi gwneud cais am y radd chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr, efallai na fyddai erioed wedi cydnabod ei alluoedd academaidd a gyda chefnogaeth ei ddarlithwyr, o ganlyniad, mae wedi gwireddu ei botensial ac wedi agor llwybrau tuag at gyrchnod gyrfa gwahanol iawn.

Tra ar y cwrs, defnyddiodd Jamie’r sgiliau ymarferol a ddysgodd ac aeth ati i  hyfforddi’r chwaraewyr dan 13 oed yng Nghlwb Pêl-droed Hwlffordd a thra’n astudio, symudodd ymlaen i'w rôl bresennol fel hyfforddwr tîm datblygu gyda phobl ifanc dan 19 oed y clwb. 

Meddai Jamie Bessant: “Yn bersonol, rwyf wedi elwa llawer o’r radd gan ei bod wedi helpu gwella fy hyfforddi a hefyd fy ngwybodaeth am amrywiol bynciau sy'n cynnwys deiet, anafiadau, adsefydlu, arddulliau a methodoleg hyfforddi, perfformiad chwaraeon a dadansoddi, hyfforddi a monitro a chryfder a chyflyru. 

“Yn ogystal rwyf wedi magu mwy o hyder gan ei bod wedi fy herio ac wedi cyflwyno cyfleoedd fel gweithio gydag Ymddiriedolaeth Dinas Abertawe ar  brosiect Kicks yr Uwch Gynghrair sydd wedi datblygu’n oriau â thâl ac wedi helpu i wella fy CV.   

“Mae’r holl ddarlithwyr yn wybodus ac yn gefnogol iawn, cewch eich trin fel unigolyn ac maen nhw i gyd wrth law i helpu, nid yn unig wyneb yn wyneb ond drwy e-bost a hefyd ar Google chat.

“Mae gwybod bod y gefnogaeth honno ar gael i chi yn help mawr ac mae’r darlithoedd hefyd yn hyblyg iawn, yn gweithio gyda’ch ymrwymiadau personol.”

O ganlyniad i'r diagnosis o ddyslecsia, llwyddodd Jamie hefyd i newid ei arddull ddysgu yn ystod ei radd a wnaeth wella ei brofiad astudio a'i baratoi ar gyfer astudiaeth bellach ar lefel MSc.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.