Canlyniadau Safon Uwch yn dangos safonau uchel parhaus a pherfformiadau unigol rhagorol
Mewn adeg sydd wedi bod heb ei thebyg yn y byd addysg ledled Cymru, mae dysgwyr yng Ngholeg Sir Gâr wedi adeiladu ar eu hastudiaethau TGAU a lefel UG blaenorol i gyflawni set ragorol o ganlyniadau Safon Uwch.
Ar gyfer canlyniadau Safon Uwch, mae’r Coleg yn dathlu 36% o ddysgwyr yn ennill graddau A*-A, tra bod 13% o’r cofrestriadau wedi cyflawni’r graddau A* uchaf. Mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac yn dyst i waith caled yr holl fyfyrwyr a staff trwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd perfformiadau pwnc nodedig yn cynnwys Mathemateg, Cyfrifiadura, Cemeg, Bioleg, Ffiseg, Mathemateg Bellach, Daearyddiaeth, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg ac Ieithoedd Tramor Modern. At ei gilydd, enillodd 88% o ddysgwyr raddau A*- C ac enillodd 100% raddau A - E. Mae hyn yn gwella ar berfformiad y blynyddoedd blaenorol a hoffwn longyfarch pawb ar eu llwyddiant.
Mae rhai perfformiadau unigol rhagorol wedi arwain at ddysgwyr yn mynd i astudio amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys Meddygaeth, Deintyddiaeth, Peirianneg, y Gyfraith, Milfeddygaeth, Cyllid ac Economeg, Ieithoedd, Newyddiaduraeth, Celf a Phensaernïaeth, pob un yn y prifysgolion Grŵp Russell gorau a phrifysgolion pherfformiad uchel.
Meddai Mrs Orla Williams, Pennaeth Safon Uwch a Mynediad:
‘Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant gwell ein myfyrwyr ac mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymdrech y myfyrwyr a’r staff hefyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf o astudio yn y coleg. Ar ran holl staff y coleg, dymunwn bob llwyddiant i’n dysgwyr wrth iddynt fynd i’r prifysgolion gorau oll ar draws y Deyrnas Unedig ac i gyflogaeth.’
Dywedodd Dr Andrew Cornish, Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion:
‘Mae’n wych gweld ein myfyrwyr yn perfformio’n dda yn gyson ac i safon uchel. Bydd y canlyniadau Safon Uwch hyn, ynghyd â pherfformiad yr un mor gryf yng Nghymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch a’r Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ), yn gweld ein dysgwyr yn parhau i symud ymlaen i Addysg Uwch, yn lleol ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, a hefyd ledled y Deyrnas Unedig i ddilyn eu gyrfaoedd dewisol.
Yr un mor nodedig yw’r graddau uchel a enillwyd ar ein rhaglenni galwedigaethol. Bydd y canlyniadau hyn, ynghyd â llwyddiant eithriadol mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol, yn galluogi ein dysgwyr galwedigaethol i symud ymlaen i’r Brifysgol, Prentisiaethau, Prentisiaethau Lefel Uwch a chyflogaeth yn y dyfodol.
At ei gilydd, mae’r perfformiad rhagorol hwn yn adlewyrchu dilyniant myfyrwyr o'r sylfeini cryf a osodwyd mewn ysgolion partner yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a thu hwnt. Ar ran y coleg, hoffwn ddymuno'r gorau iddynt i'r dyfodol.'