Mathew yn ennill gwobr y Lluoedd Arfog yn dilyn enwebiad gan ei ddarlithydd
Mae cyn-fyfyriwr wedi ennill y Wobr Cadetiaid yng Ngwobrau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru ar ôl cael ei enwebu gan ei diwtor gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Cadet Swyddog Gwarantedig Mathew Clark, o Sgwadron RAF 1429, yn fyfyriwr gwasanaethau cyhoeddus gynt a chyflwynwyd y wobr iddo yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ymunodd Mathew â Chadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol er mwyn canlyn ei frwdfrydedd mawr am hedfan, saethu, chwaraeon a’r RAF ac fe wnaeth ddarganfod hefyd ddiddordeb ychwanegol mewn drilio a drilio baner.
Fodd bynnag, pan oedd yn 18 oed ac yn astudio ar gyfer Safon Uwch, fe wnaeth problemau iechyd difrifol adael Mathew wedi’i barlysu a chwalwyd ei freuddwyd RAF.
Amanda Morgan, darlithydd gwasanaethau cyhoeddus Coleg Sir Gâr wnaeth enwebu Mathew am y wobr, ac meddai: “Ar ôl llawdriniaeth frys ar ei ymennydd, mae Mathew wedi gorfod dysgu cerdded a siarad eto ac mae wedi gwella mewn llawer llai o amser na’r disgwyl, gan guro’r digwyddiad newid bywyd a ddaeth i’w ran.
“Ar y pryd, roedd e’n astudio Safon Uwch ac oherwydd collodd e gymaint o’r coleg roedd yn amhosibl iddo ddal i fyny. Roedd ei iechyd ar y pryd yn golygu bod ei gais i’r Llu Awyr Brenhinol ar stop.
“Dychwelodd Mathew i Goleg Sir Gâr i astudio gwasanaethau cyhoeddus. Helpodd hyn iddo gael ei draed o danodd ac adennill ei nerth er mwyn gwneud cais ar gyfer swydd logisteg yn y RAF pan fyddai’n gorffen y cwrs.
“Hefyd roedd yn rhan o dîm y coleg wnaeth gystadlu mewn cystadleuaeth genedlaethol gwasanaethau cyhoeddus yn RAF Wittering yn 2019, gan ennill ail safle i’r coleg.
“Mae Mathew wedi tyfu mewn hyder ac mae wedi goresgyn ei ofnau. Ef yw’r cyntaf bob amser i fynychu unrhyw deithiau neu gystadlaethau ac mae wedi arwain llawer o sesiynau drilio yn ei uned ddisgyblaeth.
“Rydyn ni wrth ein boddau bod Mathew wedi ennill y wobr hon. Mae’n hollol haeddiannol ar ôl yr holl waith ac ymroddiad mae’n rhoi i bob agwedd o’i fywyd.”
Trefnir y digwyddiad blynyddol gan Frigâd 160ain (Cymru), ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.