Gyrru technoleg yn ei blaen yn y sector ar dir
Mae prosiect, a ariennir gan raglen LEADER Cyngor Sir Caerfyrddin, ar y gweill i helpu cymunedau ffermio ddod yn fwy effeithlon trwy ddefnyddio’r technolegau amaethyddol diweddaraf.
Mae’r prosiect Arloesedd a Thechnoleg wedi’i leoli ar gampws amaethyddol Coleg Sir Gâr yn y Gelli Aur ac mae’n gartref i swyddog y prosiect, Rhys Jones, sy’n rhedeg y prosiect gyda swyddog cyllid allanol y coleg, Nia Lloyd.
Syniad y fenter yw helpu ffermwyr gyda chymorth teilwredig drwy ymchwilio a chanfod ffyrdd arloesol o gefnogi eu gwaith gan ddefnyddio technoleg.
Gall technoleg helpu mewn llawer o ffyrdd i esmwytho gwaith fferm, fel monitro iechyd gwartheg, edrych ar breiddiau mynydd gyda dronau a defnyddio synwyryddion ar gyfer gatiau sy’n anfon rhybudd mewn neges destun at ffarmwr pan adewir hwy ar agor.
Mae’r prosiect yn creu rhwydweithiau gyda llawer o arbenigwyr amaethyddol a thechnoleg fel Lely (roboteg), Techion, Vantage Trimble (technoleg awtolywio a GPS) a KRM Ltd, a wnaeth dreialu eu gwasgarwr KRM Bogballe ar gampws y Gelli Aur cyn i’r coleg fuddsoddi yn y peiriannau.
Meddai Rhys Jones, technegydd y prosiect: “Rydym yn annog y gymuned ffermio i siarad â ni i drafod sut y gallwn ddarparu datrysiadau trwy ymchwil, technoleg a thrwy ein rhwydweithiau diwydiant i fynd i’r afael â phroblemau cyffredinol a theilwredig sy’n effeithio ar ffermydd.
“Yn ogystal mae grantiau Llywodraeth Cymru ar gael trwy Cyswllt Ffermio i gefnogi’r prosiect.
Mae’r arloesi’n wirioneddol drawiadol, yn defnyddio technoleg i ddadansoddi problemau fel materion dilyngyru lle mae technoleg yn gallu nodi wyau’n ficrosgopig mewn anifeiliaid unigol a buchesi.
“Hefyd mae yna dagiau clust ar gyfer anifeiliaid fferm sy’n tynnu sylw’r fferm pan fydd anifail yn boeth neu’n wasod yn ogystal ag ystod o roboteg fel porthwyr, parlyrau godro a chasglwyr slyri.
“Rydyn ni wir eisiau helpu ffermwyr i fod yn rhagweithiol trwy gyflwyno technoleg i ddarparu pâr ychwanegol o ddwylo.”
Gan fynd i’r afael â phroblem signal rhwydwaith mewn rhai ardaloedd gwledig, mae’r prosiect Arloesedd a Thechnoleg hefyd yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i dreialu rhwydwaith ardal eang pellter hir (LoRaWAN) a synwyryddion IOT gyda 10 fferm er mwyn helpu mynd i’r afael â rhwystrau WiFi a thechnoleg.
Ariennir y prosiect Arloesedd a Thechnoleg yn y sector ar dir drwy'r Rhaglen LEADER a ariennir trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru (2014-2020).
Cynlluniwyd y rhaglen LEADER i gael pobl, busnesau a chymunedau lleol i gymryd rhan mewn darparu datrysiadau cynaliadwy, ond arloesol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardaloedd gwledig.
Yn Sir Gaerfyrddin, rheolir y rhaglen LEADER gan y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG), sydd wedi datblygu strategaeth a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer gweithgarwch LEADER o fewn y sir.
I wybod mwy am y prosiect cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 07500 786372.
Diwedd
Llun: Mae Rhys Jones yn gyrru technoleg yn ei blaen i helpu’r sector ar dir fel rhan o’r prosiect Arloesedd a Thechnoleg sydd wedi’i leoli yng Ngholeg Sir Gâr ar gampws y Gelli Aur