Chwaraeydd gemau i gychwyn ar ei thaith gystadlu
Mae myfyrwraig peirianneg fecanyddol yng Ngholeg Sir Gâr wedi ymuno â thîm E-chwaraeon y coleg a bydd hi’n cystadlu yn erbyn timau eraill ledled y DU cyn bo hir.
Roedd diddordeb Lucy Clark mewn gemau cyfrifiadurol wedi'i sbarduno o oedran ifanc iawn pan brynwyd consol VTech iddi yn blentyn.
Symudodd ymlaen i Nintendo DS, Playstation ac yna Xbox ac yn fwy diweddar mae wedi dechrau defnyddio gemau cyfrifiadurol PC, sef yr hyn a ddefnyddir yn swît E-chwaraeon Coleg Sir Gâr ar ei gampws yn Llanelli.
Mae'r swît, sy'n ystafell addysgu a chwarae gemau cyfrifiadurol o'r radd flaenaf, yn cefnogi cyflwyno cyrsiau cyfrifiadura yn y coleg sy’n cynnwys y cymhwyster BTEC E-chwaraeon a dyma'r lleoliad chwarae gemau cyfrifiadurol a chystadlu ar gyfer Academi TG y coleg a chwaraewyr gemau CSG.
Ymunodd Lucy â thîm Valorant achlysurol y coleg a sylwyd ar ei sgiliau gan gapten y tîm a bellach mae hi’n paratoi i gystadlu fel rhan o dîm cystadleuol y coleg.
Mae hi hefyd yn ffrydio’n fyw ar Twitch, sy'n wasanaeth ffrydio byw rhyngweithiol ar gyfer chwarae gemau cyfrifiadurol.
Dywedodd Lucy Clark: “Rwy’n gyffrous iawn i fod yn ymuno â’r tîm cystadleuol ac rwy’n hoff iawn o fod yn rhan o E-chwaraeon yn y coleg.
“Mae’r swît newydd hefyd wedi rhoi lle i mi ymarfer fy sgiliau ac wedi rhoi lle i mi fynd i ymlacio rhwng gwersi.”