Adroddiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg
Daeth Safonau'r Gymraeg i rym ar Ebrill 1, 2018 ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru.
Nod y Safonau yw:
- Ei gwneud hi’n eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg
- Ei gwneud hi’n fwy eglur i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
- Sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd
Mae gan y Coleg, sy'n cynnwys Coleg Sir Gâr (CSG) a Choleg Ceredigion (CC), gyfrifoldeb i sicrhau na chaiff yr iaith Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg. Hefyd mae yna ofyniad i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg ym myd gwaith a bywyd bob dydd.
Mae’r adroddiad cyntaf ar Gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ar gyfer Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion bellach wedi’i gyhoeddi ar y wefan a gellir cael mynediad iddo yma.