Y Coleg yn dathlu llwyddiant ei fedalyddion Cymru



Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ar y cyd wedi ennill bron i 50 o fedalau Cymru mewn noson wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.
Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid herio a chynyddu eu sgiliau drwy gystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Gall rhai o’r cystadlaethau hyn hefyd arwain at hyfforddiant a chael eu dewis ar gyfer Carfan a Thîm y DU i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol.
Yn wefreiddiol, enillodd myfyrwyr Coleg Sir Gâr 16 medal aur, pedair medal arian a naw o fedalau efydd.
Yr enillwyr yn y categorïau canlynol oedd:



Aur:
Cyfrifeg: Tomos Rees | Steffan Evans | Nerys Southgate
Cynhyrchu yn y Cyfryngau Digidol: Aaron Salter | Ioan Poole | Jake Parker | Liam Evans | Tomos Hywel
Dylunio Gwefannau: Delme Harries Collins
Peirianneg Fecanyddol CAD: Matthew Richards
Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff): Courtney Hopkins
Sgiliau Cynhwysol Paratoi Bwyd: Luke Paul
Arian:
Therapydd Harddwch (Dwylo ac Wyneb): Caitlin Mccann
Celfyddydau Coginiol: Jac Davies
Efydd:
Menter: Iestyn Burke | Jack Coates | Magda Smith | Frea Thomas | Carrie Thomas
Seiberddiogelwch: Sion Ashley-Jones | Nathaniel Cynan Edwards
Sgiliau Cynhwysol Technoleg Fodurol: Montgomery Davies
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn theatr Yr Efail Coleg Sir Gâr, yn un o lawer o ddigwyddiadau cyswllt-lloeren a oedd yn dathlu llwyddiant ennill medalau ar draws Cymru.