Cyn-fyfyrwraig sydd bellach yn rheolwr maetheg anifeiliaid anwes yn dychwelyd i ysbrydoli myfyrwyr gradd
Gwnaeth cyn-fyfyrwraig gradd yng Ngholeg Sir Gâr sydd bellach yn gweithio fel rheolwr ar gyfer cwmni Hill’s Pet Nutrition, ddychwelyd i’r coleg i helpu ysbrydoli myfyrwyr ymddygiad a lles anifeiliaid i archwilio’r ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfaol fydd ar gael pan fyddant yn graddio.
Newidiodd Vanessa Hall ei gyrfa’n gyfan gwbl trwy fynd yn ôl i addysg a dilyn ei diddordeb brwd.
A hithau’n dod o fusnes teuluol, dechreuodd ei gyrfa yn gweithio i gwmni yswiriant Legal and General ac roedd hi’n rheolwr dros dri thîm o 10 o bobl erbyn ei bod yn 23 oed.
Fodd bynnag, teimlai’n rhwystredig yn ei gyrfa oherwydd ei diddordeb mawr yn y diwydiant ceffylau ac arweiniodd hyn iddi reoli cynllun haf mewn ysgol farchogaeth.
Yn dilyn cwymp sydyn pan rwygwyd y cartilag oddi ar ei phenglin, roedd hi’n wynebu rhaglen adfer dwy flynedd o hyd ac o ganlyniad, meddyliodd bod gyrfa ei breuddwydion y tu hwnt i’w chyrraedd.
Rhoi’r gorau a wnaeth i swydd ei breuddwydion a mynd i weithio mewn gwerthiannau maes gyda’r diwydiant adeiladu i werthwr tai.
Yna un diwrnod, penderfynodd hi ei bod yn mynd yn ôl i addysg ac fe gofrestrodd ar gyfer cwrs HND yng Ngholeg Pencoed. Wedyn aeth hi ymlaen i radd atodol Coleg Sir Gâr mewn ymddygiad a lles anifeiliaid lle graddiodd hi ac yna mynd i weithio i’r RSPCA.
Mae hi hefyd yn rhedeg menter gymdeithasol o’r enw Because Animals are Worthwhile, sy’n darparu grwpiau darllen ac yn dysgu plant ysgol gynradd ar draws Cymru sut i ddarllen ymddygiad ac iaith corff anifeiliaid.
Yn ystod ei chwrs, roedd ei gweithgareddau ymchwil academaidd yn cynnwys adolygu llenyddiaeth yn seiliedig ar ddeddfwriaeth lles anifeiliaid a’i berthnasedd i’r system addysg.
Meddai Dr Stephanie Rees, darlithydd mewn gwyddor anifeiliaid yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedd Vanessa am bwysleisio unwaith eto i’n myfyrwyr gradd cyfredol bod bywyd yn gallu newid hyd yn oed pe byddech efallai yn canolbwyntio ar yrfa benodol.
“Roedd hi eisiau tynnu sylw at y ffaith ei bod, yn ystod ei holl brofiadau ac yn benodol yn ystod ei gradd atodol, wedi ennill amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy. Golygai hyn nad oedd hi wedi’i chyfyngu i lwybr penodol ac yn hytrach roedd ganddi lawer o gyfleoedd gyrfaol amrywiol o’i blaen.”

