Disgyblion ysgol yn profi eu sgiliau peirianneg mewn cystadleuaeth goleg
Estynnodd Coleg Sir Gâr groeso i ddisgyblion o ddwy ysgol gyfun leol i brofi eu sgiliau mewn peirianneg, mewn cystadleuaeth arddangos a osodwyd gan Gystadlaethau Sgiliau Cymru.
Anelir y gystadleuaeth at ddisgyblion 14 i 16 oed sy’n astudio cyrsiau lefel un neu ddau mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg). Cafodd ei beirniadu gan gynrychiolwyr diwydiant a hyfforddi a bu disgyblion yn brwydro i ennill medalau aur, arian ac efydd.
Ffurfiodd disgyblion o Ysgol Gyfun Bryngwyn ac Ysgol Glan y Môr chwe thîm o dri ar gyfer cydosod cit cerbyd bach o fewn swm penodol o amser, gan ddilyn cyfarwyddiadau penodol a oedd yn defnyddio llawer o’r sgiliau allweddol sy’n gysylltiedig â gweithio mewn peirianneg.
Roedd y gystadleuaeth - o’r enw Pencampwyr Sgiliau Arddangos Peirianneg ar gyfer Sir Gaerfyrddin - hefyd yn golygu her yrru gan ddefnyddio’r cerbydau a gydosodwyd, ynghyd â thasg addasu i wella’r hyn a oedd eisoes wedi’i adeiladu, er mwyn gwella perfformiad.
Trefnwyd y digwyddiad hwn gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru (ISEiW), sydd wedi’i leoli yng Ngholeg Sir Gâr ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cefnogi’r holl gystadleuwyr o Gymru sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy Gystadlaethau Sgiliau Cymru a Worldskills y DU.
Meddai Adam Twells, sy'n bennaeth peirianneg a chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedden ni wrth ein bodd yn gweithio gyda’n hysgolion partner lleol a chynnal y gystadleuaeth a hwyluswyd gan ein staff peirianneg.
“Gobeithiwn y bydd mwy o bobl ifanc yn meddwl am beirianneg a phynciau STEM fel llwybr gyrfaol. Trwy gynnal digwyddiadau fel hyn, rydyn ni’n gallu cynnig cipolwg i’r math o sgiliau datrys problemau sydd eu hangen i astudio a gweithio mewn peirianneg a STEM.”
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.