Ymgyrch diogelwch dŵr y coleg yn gwneud argraff mewn digwyddiad a gefnogir gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI)

Mae ymgyrch diogelwch dŵr wedi cymryd drosodd yng Ngholeg Sir Gâr gyda llawer o negeseuon pwysig i’r rheiny sy’n meddwl am roi cynnig ar chwaraeon dŵr.
Cafodd y digwyddiad ar gampws y Graig ei drefnu gan fyfyrwyr Sylfaen ac fe wnaeth yr RNLI ei gefnogi. Cynigiodd gyngor a nwyddau a thaflenni ymarferol yn rhad ac am ddim, megis dalwyr ffonau symudol gwrth-ddŵr, gan felly alluogi galw’r gwasanaethau brys os oedd angen.











Hefyd roedd Dawn and Paul O’Keeffe, cyflwynwyr addysg yr RNLI wrth law i annog staff a myfyrwyr i gymryd rhan yn yr ymarfer ‘soffa i griw bad achub’ lle buont yn rasio yn erbyn y cloc i wisgo’n gyflym y cit a ddefnyddir gan griw i achub bywydau ar y môr.
Cynhaliwyd llawer o weithgareddau eraill fel codi arian ar gyfer yr RNLI gyda chystadleuaeth, cystadleuaeth gweld y perygl ar y môr ac arddangosiadau ymarferol gan fyfyrwyr antur awyr agored.
Meddai Tanya Knight, darlithydd sylfaen a drefnodd yr ymgyrch gyda’i myfyrwyr: “Rydyn ni’n ceisio rhannu gwybodaeth bwysig mewn ffordd sy’n hwyl ond yn addysgiadol i fyfyrwyr, fel eu bod yn gwybod beth i wneud mewn argyfwng posibl.
“Un o’r ymgyrchoedd yw ‘Arnofio er mwyn Byw’ sy’n rhoi cyngor hanfodol ar beth i wneud pe byddech yn syrthio i mewn i ddyfroedd oer.
“Mae ein grŵp sylfaen yn cymryd rhan mewn ‘mordaith iechyd meddwl’ ar long Her Cymru hefyd felly mae’n gwneud synnwyr i gysylltu ymgyrch ddiogelwch i’r siwrnai, yn enwedig gan ein bod yn nesáu at y gwanwyn a’r haf pan fydd pobl yn mynd ar grwydr i ddyfroedd mwy cynnes.”