Buddugoliaeth driphlyg am sgiliau cyfrifiadura
Mae myfyrwyr cyfrifiadura Coleg Sir Gâr yn dathlu buddugoliaeth driphlyg gyda thair prif wobr a enillwyd mewn digwyddiad Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
Gan gystadlu yn erbyn chwe choleg arall, enillodd Nathan Hudson arian mewn Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes (ITSSB) ac enillodd Tyler Whitcombe aur.
Daeth Kieran Davies i’r brig yng nghategori Technegydd Cymorth TG wrth ennill aur, gan symud cam ymlaen o’i lwyddiannau blaenorol yn y gystadleuaeth pan enillodd arian yn rownd derfynol Cymru o’r categori technegydd cymorth TG uwch, fis Rhagfyr diwethaf.
Roedd y cyn-ddisgybl o Ysgol Sant Ioan Llwyd Nathan Hudson a Tyler Whitcombe sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol y Strade yn cystadlu am y tro cyntaf ac mae’r profiad wedi rhoi hwb i’w hyder. “Gwnes i gyflawni llawer mwy nag oeddwn yn meddwl y byddwn,” dywedodd Nathan. “Mae’r gystadleuaeth wedi fy nysgu i gael ychydig bach mwy o hyder yn fy ngalluoedd.”
Ychwanegodd Tyler Whitcombe: “Roeddwn yn amau fy hunan ar y dechrau ond mae wedi cynyddu fy hyder a bellach rwy’n gwybod bod rhaid i fi roi cynnig ar fwy o bethau newydd.”
Mae Denise Hudson, sy’n bennaeth cynorthwyol cwricwlwm ar gyfer peirianneg a chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr, hefyd yn rhedeg sesiynau ITSSB Academi TG y coleg. “Rwy’n wirioneddol falch o’n myfyrwyr,” meddai. “Rwy’n meddwl eu bod wedi gwneud gwaith syfrdanol yn enwedig gan eu bod yn cystadlu yn erbyn cymaint o fyfyrwyr eraill tebyg eu gallu. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos eu haddasrwydd neilltuol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.”
Mae’n bosibl y caiff y triawd gyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth WorldSkills UK Live ym Mirmingham os gwnaiff eu canlyniadau ennill lle yn rownd derfynol Cymru.