Myfyrwyr chwaraeon yn ennill medalau
Mae myfyrwyr Coleg Sir Gâr wedi cael llwyddiant yng ngŵyl chwaraeon amrywiol gyntaf erioed Colegau Cymru a drefnwyd ar gyfer colegau addysg bellach y DU.
Gan adeiladu ar lwyddiant a phoblogrwydd Geraint Thomas, y beiciwr safon orau’r byd o Gymru, mae’r digwyddiad wedi’i fwriadu ar gyfer athletwyr cystadleuol yn ogystal â dechreuwyr sy’n awyddus i roi cynnig ar chwaraeon amrywiol am y tro cyntaf.
Gan ffurfio partneriaeth ranbarthol newydd, trefnwyd y digwyddiad gan Goleg Sir Gâr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Triathlon Cymru, Seiclo Cymru a Chwaraeon Cymdeithas y Colegau (AoC).
Hefyd chwaraeodd myfyrwyr a staff y coleg ran arwyddocaol o ran cefnogi’r digwyddiad.
Yn dilyn hyfforddiant GO-TRI gan Driathlon Cymru, darparwyd sgiliau newydd i 22 o fyfyrwyr Coleg Sir Gâr ar gyfer rheoli 140 o fyfyrwyr o bob cwr o’r DU a oedd yn cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon swyddogol.
Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mharc Gwledig Pen-bre. Roedd y myfyrwyr yn cael dewis rhwng ras redeg 5km gyda ras feics 20km a rhediad 2.5km yn dilyn neu ras seiclo gystadleuol 10km yn erbyn y cloc. Cafodd dechreuwyr eu hannog gyda ras redeg 1km, ras feics 4km a rhediad arall o 1km.
Yn ennill y safle cyntaf yng nghystadleuaeth ddeuathlon y merched roedd myfyrwraig perfformiad a rhagoriaeth chwaraeon Coleg Sir Gâr Lara Griffiths, a wnaeth gwblhau’r her mewn ond ychydig dros awr ac ugain munud.
Yn cymryd y safle uchaf yng nghystadleuaeth y dynion roedd myfyriwr gwyddor chwaraeon ac ymarfer Coleg Sir Gâr James Oulsnam a gymerodd ond ychydig eiliadau dros awr a phum munud.
Yn y pedwerydd safle roedd y myfyriwr Matthew Lloyd, yn chweched roedd William Davies o Goleg Sir Gâr ac enillodd Luke Dunning y seithfed safle.
Meddai Rob Kirk, arweinydd rhaglenni maes dysgu gwyddor chwaraeon ac ymarfer yng Ngholeg Sir Gâr: “Roeddem wrth ein bodd yn cefnogi’r digwyddiad hwn a wnaed yn bosibl trwy ymddygiad arloesol Cyngor Sir Caerfyrddin wrth greu ein Trac Seiclo Caeedig unigryw ym Mhen-bre.
“Roedd yr amodau yn heriol ar gyfer y gweithgareddau chwaraeon amrywiol a ddilynodd y fformat Sbrint Deuathlon swyddogol.
“Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein myfyrwyr a phawb a wnaeth gymryd rhan.
“Mae’n ddigwyddiad cydweithredol gwych sy’n ceisio cynyddu gweithgarwch corfforol ymysg pobl ifanc 16 i 24 oed ac roeddem wrth ein bodd yn cwrdd â’r athletwr o Brydain Liam Lloyd a fu’n astudio gwyddor chwaraeon ac ymarfer gyda ni.”
Hefyd yn cefnogi’r digwyddiad roedd y Fyddin Brydeinig, Parc Sgrialu Ramps, Bikeability a FfotograffiaethGBM.