Mae prentis yng Ngholeg Sir Gâr wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang wrth iddi ennill medal efydd am drin gwallt yn WorldSkills, Kazan, 2019.
Teithiodd Phoebe McLavy, 20 oed, o Gaerfyrddin, i Rwsia fel rhan o Dîm y DU i gystadlu yn y gemau Olympaidd byd-eang ar gyfer sgiliau, gan gynrychioli Prydain Fawr o fewn ei sector sgiliau hi.
Mae hyfforddi i gael eich dewis ar gyfer Tîm y DU a bod yn rhan o’r garfan yn broses ddwys a thrylwyr sy’n paratoi cyfranogwyr ar gyfer cystadleuaeth o’r radd flaenaf.
Roedd medal Phoebe yn un o bedair medal a enillwyd gan Dîm y DU eleni.
Mae hi wedi cael cefnogaeth gan y tiwtor coleg Adrienne Chick, ei chyflogwr Salon Morgan Edward yng Nghaerfyrddin, WorldSkills UK a'r prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.
Yn dilyn y gystadleuaeth a’r seremoni wobrwyo, dywedodd Phoebe wrth WorldSkills UK: “Mae'n teimlo'n anhygoel ac mae wedi bod yn daith hir. Mae'n teimlo'n hyfryd gallu dweud bod gennyf y fedal hon i gynrychioli'r holl waith caled sydd wedi mynd i mewn i’r llwyddiant hwn."
Mae Edward Rees, perchennog salon Morgan Edward, wedi bod yn cefnogi Phoebe ar hyd ei thaith gystadlu ac mae wedi darparu hyfforddiant yn ei salon. Meddai: “Mae Phoebe’n aelod cymwys a thalentog iawn o garfan y DU ac fel salon rydym wedi ymrwymo amser ac egni yn ei datblygiad a bellach mae Phoebe yn gaffaeliad i ni a byddwn yn annog cyflogwyr eraill i arwain eu staff i lawr y llwybr gyrfaol cyffrous hwn.”
Meddai Sarah Hopkins, cyfarwyddwr recriwtio a dilyniant yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’r coleg wrth ei fodd gyda llwyddiant Phoebe, mae hi wedi gweithio’n arbennig o galed.
“Rydym yn credu ei bod hi’n ysbrydoliaeth i’w sector sgiliau yn ogystal ag i eraill sy’n dyheu am fod y gorau y gallan nhw fod.
“Mae hi'n fodel rôl go iawn.”