Ennill medalau yn WorldSkills UK Live
Mae myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi dod â medalau adref gan gynnwys dwy fedal aur, o ddigwyddiad sgiliau, prentisiaethau a gyrfaoedd mwyaf y DU.
WorldSkills UK Live yw rownd derfynol genedlaethol y DU ar gyfer cystadlaethau sgiliau galwedigaethol ac mae’n dod â phrentisiaid a phobl ifanc o bob cwr o’r pedair cenedl at ei gilydd i gystadlu i safon orau’r byd yn eu meysydd dewisol.
Enillodd Kieran Davies o Goleg Sir Gâr fedal aur y DU yn y gystadleuaeth Cymorth TG ac yn ennill medal aur y DU arall i’r coleg roedd Lewis Hall a fu’n cystadlu yn y categori gwaith coed.
Enillodd Anwen Evans fedal efydd yn y gystadleuaeth iechyd a gofal cymdeithasol ac enillodd myfyriwr Coleg Ceredigion Celt John wobr cymeradwyaeth uchel mewn celfyddydau coginiol.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng nghanolfan NEC Birmingham, yn cynnwys dros 70 o gystadlaethau sgiliau. Daethpwyd â mwy na 500 o gystadleuwyr o bob cwr o’r DU at ei gilydd i gymryd rhan mewn cystadlu dwys, a chawsant eu beirniadu gan aelodau proffesiynol o fyd diwydiant.
Mae WorldSkills UK Live yn sioe dra rhyngweithiol sy’n gwahodd plant ysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol. Mae’n denu tua 70,000 o ymwelwyr ac mae’n hyrwyddo gwerth safonau neilltuol o uchel mewn meysydd sgiliau o adeiladu ac isadeiledd i fusnes a lletygarwch.
Meddai Matt Morden, pennaeth cynorthwyol ar gyfer profiad dysgwyr a phartneriaethau yng Ngholeg Sir Gâr: “Unwaith eto, mae’n wych i weld ein myfyrwyr Kieran, Lewis ac Anwen yn ennill medalau yn nigwyddiad WorldSkills UK yn y Ganolfan Arddangos Genedlaethol ym Mirmingham.
“Mae eu cyflawniadau a’r profiadau a enillwyd gan ein cystadleuwyr eraill sef Celt, Niamh, Hedydd, Shannon, Menna a Kalumn yn deyrnged i’w holl waith caled ac i gefnogaeth eu tiwtoriaid ar draws Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
“Gobeithiwn y bydd llawer ohonynt yn parhau i ddilyn ôl traed Phoebe McClavy gan symud ymlaen i garfannau’r DU gyda’r nod o gystadlu yn WorldSkills Shanghai yn 2020."