Llwyddiant Myfyrwraig Cynghori
Mae myfyrwraig gradd mewn cynghori yng Ngholeg Sir Gâr a brofodd newid gyrfaol wedi cyflawni cofnod presenoldeb o 100 y cant er iddi roi genedigaeth i’w merch, Astrid.
Roedd Jennifer Cavill-Frysol eisoes wedi ennill cymhwyster gradd gyfun yn ogystal ag MA mewn Astudiaethau Celtaidd, ond a hithau’n gweithio mewn rolau gweinyddol, roedd hi’n teimlo’n rhwystredig. “Rwy’n cofio cael pryd o dafod gan gyflogwr am dreulio gormod o amser yn siarad â chleientiaid a’u helpu,” meddai Jennifer. “Plannodd hynny hedyn yn fy meddwl.”
Cwblhaodd hi gwrs cyflwyniad i gynghori ac o hynny, roedd Jennifer yn gwybod ei bod am symud tuag at rôl yrfa gefnogol.
Ychwanegodd Jennifer: “Mae fy mhrofiad ar y cwrs hyd yma wedi bod mor bositif.
“Mae ein tiwtor ni yn wirioneddol wych, tiwtor talentog a gofalgar hefyd gyda diddordeb yn ein twf academaidd ac emosiynol.
“Mae’r myfyrwyr yn fy nosbarth o amrywiol gefndiroedd a gyrfaoedd ac mae hyn yn gwneud y cwrs hyd yn oed yn fwy bywiog”
Gyda chychwyniad Covid-19, dywed Jennifer fod ei dosbarthiadau sydd bellach ar-lein yn rhoi strwythur iddi i’r wythnos a bod yr hyn mae hi wedi’i ddysgu ar y cwrs yn ei helpu hefyd i gynnal ei hun a’i theulu yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Cyflawnodd Jennifer bresenoldeb o 100 y cant ar ei chwrs, er ei bod yn disgwyl genedigaeth ei merch. “Am wn i roeddwn i wedi meddwl y byddwn i’n gorffen gyda chwpwl o wythnosau i ffwrdd ar ôl cael Astrid ac roeddwn i am gael byffer presenoldeb fel na fyddwn i’n brin - mae’n debyg gwnes i orgyflawni,” meddai.
Ar ôl ymgymryd â gradd anrhydedd BA mewn cynghori ar gampws Rhydaman y coleg, disgrifiad Jennifer o’r cwrs yw ei fod yn meithrin awyrgylch cefnogol.