Meddai Mrs Orla Williams, Pennaeth Safon Uwch a Mynediad
‘Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant gwell ein myfyrwyr ac mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymdrech y myfyrwyr a’r staff hefyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf o astudio yn y coleg. Ar ran holl staff y coleg, dymunwn bob llwyddiant i’n dysgwyr wrth iddynt fynd i’r prifysgolion gorau oll ar draws y Deyrnas Unedig ac i gyflogaeth.’
Dywedodd Dr Andrew Cornish, Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
‘Mae’n wych gweld ein myfyrwyr yn perfformio’n dda yn gyson ac i safon uchel. Bydd y canlyniadau Safon Uwch hyn, ynghyd â pherfformiad yr un mor gryf yng Nghymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch, yn gweld ein dysgwyr yn parhau i symud ymlaen i Addysg Uwch, yn lleol ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, a hefyd ledled y Deyrnas Unedig i ddilyn eu gyrfaoedd dewisol.
Yr un mor nodedig yw’r graddau uchel a enillwyd ar ein rhaglenni galwedigaethol. Bydd y canlyniadau hyn, ynghyd â llwyddiant eithriadol mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol, yn galluogi ein dysgwyr galwedigaethol i symud ymlaen i’r Brifysgol, Prentisiaethau, Prentisiaethau Lefel Uwch a chyflogaeth yn y dyfodol.
At ei gilydd, mae’r perfformiad rhagorol hwn yn adlewyrchu dilyniant myfyrwyr o'r sylfeini cryf a osodwyd mewn ysgolion partner yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a thu hwnt. Ar ran y coleg, hoffwn ddymuno'r gorau iddynt i'r dyfodol.'