Fel myfyriwr y flwyddyn gyntaf yn astudio ar raglen Lefel 3, efallai eich bod am wneud cais i fod yn rhan o raglen Ysgoloriaeth Llysgennad y Coleg.
Os ydych chi’n gyfathrebwr hyderus ac mae gennych chi brofiad o gefnogi eraill, neu os ydych chi wedi cyfrannu at fywyd cymunedol yn yr ysgol yn flaenorol, gall hyn fod yn gyfle ardderchog i chi ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu ymhellach. Hefyd bydd dal swydd Llysgennad Myfyrwyr yn profi’n fanteisiol pan fyddwch yn cyflwyno ceisiadau ar gyfer y brifysgol neu gyflogaeth.
Fel Llysgennad Myfyrwyr, byddwn ni’n eich talu i gefnogi adeg digwyddiadau megis Nosweithiau Agored, Wythnosau Agored Rhithiol ac ymweliadau ag ysgolion, yn ogystal â chroesawu ymwelwyr pwysig i’r Coleg.
Mae Coleg Sir Gâr yn cynnig 60 o ysgoloriaethau bob blwyddyn. Mae yna broses ymgeisio a chyfweld yn ogystal â diwrnod hyfforddi ar ddechrau’r rhaglen.
I gael mwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau Llysgennad, gweler y PDF isod ac ewch ati i lenwi’r ffurflen gais:
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.