Mae prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd â pheth elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn cael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentis.
Mae gan ddysgwyr ar y rhaglen hon yr opsiwn o ddau lwybr astudio. Mae llwybr un yn ymgorffori llwybr cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae’n seiliedig ar arholiadau. Mae’r ail lwybr yn cynnwys adeiladu portffolio o dystiolaeth drwy ddiploma seiliedig ar waith City & Guilds.
Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Yn y coleg, mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau a sgiliau ymarferol arbenigol i baratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle. Dylai dysgwyr gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel tri o fewn 18 mis.
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Caiff y prentis ei asesu yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod).
Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.
Mae diploma seiliedig ar waith City & Guilds yn llwybr amgen diarholiad.
Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy’n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys naill ai Tystysgrif lefel tri BHSQ mewn Gofal Ceffylau a Dyfarniad lefel tri BHSQ mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau neu ddiploma lefel tri City & Guilds mewn Gofal a Rheolaeth Ceffylau yn y gweithle.
Y Sgiliau Hanfodol y mae rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 2)
Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol ee TGAU mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch.
Mae enghreifftiau o'r unedau astudio yn cynnwys:
Bwydo a Ffitrwydd Ceffylau
Anatomeg a Ffisioleg
Iechyd Ceffylau
Gofalu am Laswelltir a stablau
Arwain ceffyl heini ar gyfer ymarfer
Gosod Tac a Chyfarpar ar gyfer cystadlaethau
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i’r brentisiaeth geffylau uwch ar lefel pedwar ac mae myfyrwyr yn aml yn symud ymlaen yn y gwaith i fod yn gynorthwyydd neu reolwr iard.
Arholiad BHSQ Cam 3 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau y gellir ei sefyll ym Mhibwrlwyd, Coleg Sir Gâr, neu bortffolio o dystiolaeth diploma seiliedig ar waith lefel tri City & Guilds, wedi'i asesu gan staff cymwys y coleg yn y gweithle ac yn y coleg hefyd.Bydd dysgwyr ar y naill lwybr neu’r llall yn cael eu hasesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg hefyd a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.
Nid oes ffi ychwanegol tra’n astudio ar y cwrs heblaw bydd gofyn i'r dysgwr brynu Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain os yw’n sefyll arholiadau BHS. Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu a’ch cyfarpar personol eich hun. Mae’n bosibl y gallwch fynd i gostau hefyd os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.