Côd UCAS: C22
Côd Cwrs Llawn Amser: 02XD
Côd Cwrs Atodol Lefel 6 Llawn Amser: 02XX
Cynigir y rhaglen BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn llawn amser neu'n rhan-amser. Gydag ychwanegiad Lefel 6 ar gyfer graddedigion sydd â Gradd Sylfaen neu HNC/HND mewn pynciau Anifeiliaid.
Mae'r cwrs yn darparu'r cyfle i astudio ymddygiad, ffisioleg a lles anifeiliaid a sut y gall addasiadau esblygol ac ysgogiadau amgylcheddol effeithio ar oroesiad, ymddygiad ac iechyd.
Caiff astudiaeth o ymddygiad anifeiliaid ei chymhwyso i wella hyfforddiant, gofal a rheoli lles anifeiliaid, a chaiff ei defnyddio mewn cadwraeth rhywogaethau brodorol a rhai byd-eang sydd mewn perygl.
Mae'r BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn caniatáu cyfle i israddedigion ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol sylfaenol moeseg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso'r wybodaeth hon i les a chadwraeth.
Llawn Amser neu rhan amser
3 blynedd llawn amser, 5 mlynedd rhan-amser ar gyfer pob lefel. Blwyddyn llawn amser neu dwy flynedd rhan-amser ar gyfer yr opsiwn atodol Lefel 6.
Campws Pibwrlwyd
Mae modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol: -
Gorfodol:
Modiwlau Opsiynol:
Dewis o un o’r opsiwn canlynol: -
Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd y tu allan i ofal anifeiliaid. Cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o sgiliau megis:
Côd UCAS: C22
Côd Cwrs Llawn Amser: 02XD
Côd Cwrs Atodol Lefel 6 Llawn Amser: 02XX
Cynigir y rhaglen BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn llawn amser neu'n rhan-amser. Gydag ychwanegiad Lefel 6 ar gyfer graddedigion sydd â Gradd Sylfaen neu HNC/HND mewn pynciau Anifeiliaid.
Mae'r cwrs yn darparu'r cyfle i astudio ymddygiad, ffisioleg a lles anifeiliaid a sut y gall addasiadau esblygol ac ysgogiadau amgylcheddol effeithio ar oroesiad, ymddygiad ac iechyd.
Caiff astudiaeth o ymddygiad anifeiliaid ei chymhwyso i wella hyfforddiant, gofal a rheoli lles anifeiliaid, a chaiff ei defnyddio mewn cadwraeth rhywogaethau brodorol a rhai byd-eang sydd mewn perygl.
Mae'r BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn caniatáu cyfle i israddedigion ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol sylfaenol moeseg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso'r wybodaeth hon i les a chadwraeth.
Mae'r asesu'n amrywiol ac yn addas ar gyfer gofynion modiwlau unigol ac yn cynnwys:
Traethodau; Cyflwyniadau; Adroddiadau Ysgrifenedig; Adroddiadau Astudiaeth Achos; Arholiadau; Ymchwil/arsylwadau Ymarferol Annibynnol; Portffolios Ymchwil; Cyflwyniadau Seminar.
Rhoddir mynediad i ymgeiswyr sydd yn dangos y gallu academaidd a'r potensial i elwa o'r rhaglen.
Disgwylir i fyfyrwyr fod â phedwar TGAU gradd C ac uwch ac 16 pwynt UCAS.
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n dechrau astudio ar Lefel 4 fod â chymhwyster Lefel 3 gyda gradd bas neu uwch ac yn ddelfrydol byddant wedi ymgymryd â pheth profiad gwaith gydag anifeiliaid.
Ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisiau cofrestru'n uniongyrchol ar Lefel 6 ar gyfer yr opsiwn 'atodol' y gofynion mynediad yw Gradd Sylfaen mewn Gwyddor Anifeiliaid neu HND mewn Astudiaethau Anifeiliaid, a'u bod wedi cyflawni modiwlau addas ar gyfer gwneud cais am achredu ardystiad blaenorol.
Caiff myfyrwyr hyn eu hystyried ar sail unigol gan y gellir rhoi ystyriaeth i gymwysterau diwydiannol perthnasol a phrofiad.
Gofynnir i ymgeiswyr nad ydynt wedi cyflawni HND neu Radd Sylfaen pan fyddant yn ymgeisio i ymgymryd ag astudiaethau ar Lefel 4 a 5 cyn symud ymlaen i fodiwlau BSc Lefel 6.
Nid oes unrhyw ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol am gyfarpar personol ac am deithiau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion