Mae'r cwrs lefel dau hwn yn gyflwyniad i reolaeth ceffylau a stablau ar gyfer y rheiny sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant ceffylau neu ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen i gwrs rheolaeth ceffylau a stablau lefel tri. Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau'r dysgwr ac mae'n darparu gwybodaeth helaeth yn ymwneud â cheffylau a'r diwydiant ceffylau. Mae dysgwyr yn astudio theori yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau ymarferol yn iard gystadlu’r coleg sy’n ganolfan arholi Cymdeithas Ceffylau Prydain.
Mae gan yr iard amrywiaeth o geffylau wedi'u gwastrodi'n dda a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant mewn dressage a neidio ceffylau. Caiff myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gynhelir gan y coleg ac i dderbyn hyfforddiant oddi wrth hyfforddwyr ac arholwyr Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS).
Mae'r cwrs yn cynnwys uned brofiad gwaith orfodol sy'n golygu 150 o oriau o brofiad gwaith drwy gydol y flwyddyn mewn canolfan geffylau addas. Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.
Yn ogystal bydd y dysgwr yn cael y cyfle i sefyll arholiadau cam un Cymdeithas Ceffylau Prydain a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd pan fydd yn cyrraedd y safon ofynnol.
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Unedau Craidd:
Unedau Opsiynol:
Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol: Cânt eu gosod yn allanol, eu marcio'n fewnol a'u cymedroli'n allanol.
Arholiad theori diwedd y flwyddyn: Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.
Mae arholiadau Cymdeithas Geffylau Prydain yn seiliedig ar waith ymarferol ac ar theori. Gellir ymgymryd â'r adran gwybodaeth a gofal ceffylau ynghyd â'r adran farchogaeth yn Uned Geffylau Campws Pibwrlwyd y coleg.
Tri TGAU (gan gynnwys o leiaf un TGAU (A* i C) mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg) a chyfweliad ac asesiad marchogaeth llwyddiannus.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.