Nyrsio Milfeddygol lefel 3
Cipolwg
-
Rhan Amser
-
33 mis
-
Campws Pibwrlwyd
Mae'r cwrs lefel tri nyrsio milfeddygol seiliedig ar waith hwn wedi’i gynllunio ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio mewn gweithle sy'n bractis hyfforddiant milfeddygol cymeradwy. Rhaid i bob practis gael eu cymeradwyo gan y coleg a rhaid i brentisiaid fod yn gweithio gyda nyrs filfeddygol gofrestredig neu filfeddyg (hyfforddwr clinigol) trwy gydol y rhaglen.
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi a thiwtoriaid a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod). Caiff modiwlau eu hasesu drwy aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau a log sgiliau clinigol ymarferol. Rhaid i brentisiaid sefyll Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) ar ddiwedd eu cwrs i fod yn gymwys i ymuno â'r Gofrestr Nyrsys Milfeddygol.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus mae myfyrwyr yn gymwys i ymuno â'r gofrestr Nyrsys milfeddygol. Mae cyfleoedd i symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch megis HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd (BSc). Dilyniant o fewn swydd - Diploma Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) mewn Nyrsio Milfeddygol Uwch
Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Llwybr Anifeiliaid Bach)
- Sgiliau Hanfodol ar lefel 2 (Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu)
Gwaith cwrs, aseiniadau, arholiadau, Log Sgiliau Clinigol ac Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol.
- Pum TGAU gradd C neu uwch a rhaid iddynt gynnwys mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth
- Gwaith llawn amser â thâl mewn practis hyfforddiant milfeddygol
- Gellir ystyried cymwysterau eraill ar yr un lefel neu lefel uwch fesul achos.
- Gweithio gyda nyrs filfeddygol gofrestredig neu filfeddyg i gynorthwyo i gwblhau'r log cynnydd nyrsio.
- Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.