Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i alluogi cyfranogwyr i gael gwerthfawrogiad o egwyddorion ac arferion rhoi cymorth cyntaf i gŵn mewn ystod o sefyllfaoedd brys, ynghyd â dealltwriaeth o'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol.
Mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau ymarferol i alluogi cyfranogwyr i ymarfer ystod o sgiliau gan gynnwys rhwymynnu a CPR.
Mae'r cwrs o fudd i unrhyw un sy'n berchen ar gŵn neu sy'n gweithio gyda nhw. Bydd y wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygir fel rhan o'r cwrs hwn hefyd yn tawelu meddwl cwsmeriaid busnesau megis twtwyr cŵn, cyndai, y rheiny sy’n gwarchod a cherdded cŵn fod eu hanifeiliaid anwes yn cael eu diogelu. Fel y cyfryw, gall y modiwl hwn ffurfio rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus cydnabyddedig unrhyw weithiwr mewn busnes o’r fath.
Rhan Amser
Un diwrnod, Dydd Sadwrn Mai 7fed Dyddiadau ychwanegol i ddilyn
Campws Pibwrlwyd
Mae costau cwrs yn £120 pp
Cyflwynir y cwrs gan Nyrs Filfeddygol Gofrestredig (RVN) ac mae'n cynnwys sesiynau theori ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol hefyd.
Mae'r cwrs o fudd i unrhyw un sy'n berchen ar gŵn neu sy’n gweithio gyda nhw.