Byddwch Actif.
Mae iechyd a lles ein dysgwyr yn flaenoriaeth uchel yng Ngholeg Sir Gâr. Cynlluniwyd y rhaglen Byddwch Actif i ddarparu ystod eang o weithgareddau er mwyn annog ein myfyrwyr i fod yn fwy actif.
Agwedd bwysig y rhaglen yw ei bod wedi’i chynllunio gennych chi, y myfyrwyr, felly y gweithgareddau yw’r pethau rydych chi eisiau eu gwneud. Boed hynny yn dodge ball, Soffa i 5k, sesiynau ffitrwydd yn ein Swît Ffitrwydd, dawns stryd, tenis bwrdd neu yoga – eich dewis chi yw a bydd y tîm Byddwch Actif yn gweithio’n galed i gyflenwi eich awgrymiadau.
Mae Byddwch Actif yn ymwneud â chael hwyl, does dim rhaid iddo fod yn gystadleuol, does dim hyd yn oed rhaid i chi wisgo cit arbennig ac mae’r cwbl yn rhad ac am ddim.
Pa un bynnag gampws rydych chi arno mae’r tîm Byddwch Actif yn awyddus i glywed pa weithgareddau hoffech chi gymryd rhan ynddynt. Gofynnwch i’ch tiwtor am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â’r tîm Byddwch Actif trwy e-bostio
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


