Skip to main content

Parchus

Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion mae staff a myfyrwyr yn cydweithio i greu cymuned goleg gynhwysol a phleserus lle gall ein myfyrwyr a staff gyflawni eu potensial llawn. 

Mae’r coleg yn cynnwys cymuned amrywiol ac egnïol o staff a myfyrwyr, lle mae unigolion yn cydweithio, cymdeithasu, dysgu a datblygu mewn amgylchedd ysbrydoledig, diogel a chan gefnogi ei gilydd. Rydyn ni’n hyrwyddo awyrgylch o barch y naill at y llall gan ddatblygu amgylchedd dysgu creadigol a chefnogol lle gall myfyrwyr ffynnu.

Parchus

Gofynnwn i bob un ymddwyn mewn modd parchus, a dangos agwedd bositif tuag at ddysgu a gwaith tra’n mynychu’r coleg. Mae’r holl aelodau staff yn gweithredu fel modelau rôl i’r myfyrwyr ac yn cefnogi ymddygiad positif trwy osod safonau a disgwyliadau uchel. 

Mae staff yn cydnabod ymddygiadau positif ac yn eu gwobrwyo gyda chanmoliaeth, gan gefnogi datblygiad hunan-barch a hunanddisgyblaeth myfyrwyr. Hefyd rydyn ni’n disgwyl bod yr holl staff yn herio ymddygiadau negyddol, er mwyn cynnal amgylchedd coleg cadarnhaol a phleserus i ni i gyd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.