Skip to main content

Parth Rhieni.

Dengys ymchwil addysgol fod y bartneriaeth rhwng myfyrwyr, rhieni neu warcheidwaid a’r Coleg yn hanfodol bwysig ar gyfer dysgu llwyddiannus. Mae’r Parth hwn yn rhan o’n hymrwymiad i sefydlu partneriaethau gwaith rhwng myfyrwyr, eu teuluoedd a’r Coleg i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cyrraedd eu llawn botensial.

Mae’r Coleg yn gweithio’n galed i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyngor gyrfaol teg ac mae’n gweithio’n agos gydag ysgolion i wneud y cyfnod pontio o’r ysgol i’r Coleg yn un esmwyth. Mae’r broses bontio hon yn eang ac mae’n cynnwys ymweliadau ag ysgolion gan gyn-ddisgyblion a staff er mwyn darparu gwybodaeth, cysylltiadau pontio pynciol, diwrnodau rhagflas yn ein Coleg, a Nosweithiau Agored, sy’n digwydd yn gyson ar hyd y flwyddyn.

Ar adegau rydym yn cael digwyddiadau arbennig megis SkillsCymru Sir Gaerfyrddin. Yn y digwyddiad hwn, rydym yn ymuno gyda Llywodraeth Cymru i ddod â rhai o gyflogwyr mwyaf Gorllewin Cymru, colegau a darparwyr hyfforddiant at ei gilydd ar gyfer digwyddiad gyrfaoedd ym Mharc y Scarlets yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Ei ffocws yw dod â phobl wyneb yn wyneb â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, colegau addysg bellach a phrifysgolion.

Gyda’ch cymorth a’ch anogaeth rwy’n siŵr y byddwch yn gweld bydd profiad eich mab neu ferch gyda ni yn un arbennig.  Mae Diogelu yn flaenoriaeth i ni ac mae’r gofal, cymorth ac arweiniad a ddarperir gennym i ddysgwyr yn nodwedd ardderchog o’r Coleg cynhwysol hwn. Yn y cyd-destun hwn, caiff yr holl ddysgwyr eu trin yn gyfartal a disgwylir iddynt fod yn oddefgar ac yn dderbyngar o bobl eraill.  Yn fwyaf oll, nod y Coleg yw ysbrydoli myfyrwyr, cynyddu eu sgiliau, creu ystod o gyfleoedd a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial. 

Mae staff y Coleg yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda chi.

Dr Andrew Cornish, CPhys MInstP, TAR

Prif Weithredwr/Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.