Croeso i’r Gyfadran Cyfrifiadura a Thechnolegau Peirianneg yng Ngholeg Sir Gâr. Rydym yn cynnig cyrsiau o lefel un i radd anrhydedd mewn Cyfrifiadura a Pheirianneg, ar ein Campws yn y Graig, a lefel un i lefel pedwar mewn cerbydau modur, ym Mhibwrlwyd yng Nghaerfyrddin.
Ein ffocws yw cynnig hyfforddiant diwydiannol perthnasol, mewn cyfleusterau modern i safon ragorol. Y prif lwybrau dilyniant ar gyfer myfyrwyr yw i brentisiaethau neu brifysgol, ac rydym hefyd yn cynnig prentisiaethau gradd mewn Peirianneg, sy’n cyfuno’r ddau. Gallwch chi astudio mewn nifer o ffyrdd - yn llawn amser neu ran-amser, yn y gwaith yn unig, fel prentis ac rydym yn cynnig cyrsiau byr. Mae’r rhaglen uwch mewn Peirianneg a Chyfrifiadura yn rhaglen ddwys blwyddyn o hyd, sy’n cynnig hyfforddiant ychwanegol a phrofiad gwaith gyda’r nod o sicrhau prentisiaeth.
Ar Gampws y Graig yn ogystal, mae Peirianneg yn cefnogi’r diwydiannau gweithgynhyrchu lleol amrywiol drwy ei gyrsiau peirianneg fecanyddol, peirianneg drydanol ac electronig a chyrsiau ffabrigo a weldio. Mae ein graddau Peirianneg mewn Peirianneg Fecanyddol a Pheirianneg Drydanol / Electronig yn elwa ar achrediad gan IMechE ac IET yn y drefn honno, gan yrru myfyrwyr ar eu llwybr i statws siartredig.
Gellir dod o hyd i restr o n cyrsiau isod:
Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.