Skip to main content

HNC Peirianneg Drydanol / Electronig

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 2 flynedd yn rhan-amser

  • Campws y Graig

Peirianneg yw'r grefft o droi dychymyg yn realiti, lle mae arloesedd a chreadigrwydd yn cwrdd ag egwyddorion gwyddonol

Mae'r pwyslais trwy gydol y cwrs ar ddysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr,  sy’n dasg gyfeiriedig, gyda digon o gyfle ar gyfer gwaith aseiniad ymarferol. Lle bynnag y bo hynny'n bosibl, bydd prosiectau, a wneir yn yr ail flwyddyn, yn cael eu seilio ar ddiwydiant gyda goruchwylwyr diwydiannol yn cymryd rhan lawn ynddynt. Mae hwn yn gwrs rhan-amser dwy flynedd, sefydledig, sy'n darparu sylfaen gadarn ym mhob agwedd ar beirianneg drydanol ac electronig ac mae'n cyfuno'r meysydd pwnc caledwedd a meddalwedd y mae'r diwydiant yn galw amdanynt.

Bydd gan y myfyrwyr gyfle i ddychwelyd ar ôl cyflawni'r HNC i uwchraddio i'r HND ar ôl astudio ymhellach yn rhan-amser am flwyddyn. Ar ôl hynny, gallant uwchraddio i radd BSc (Anrh) ar ôl astudio ymhellach yn rhan-amser am ddwy flynedd.

Nodweddion y Rhaglen

Mae gan y dyfarniad hwn y nodau addysgol cyffredinol canlynol:

  • a) Datblygu lefel briodol o ddealltwriaeth o egwyddorion peirianneg drydanol ac electronig, mathemateg a rhaglennu.
  • b) Datblygu’r gallu i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd i ddatrys problemau peirianegol.
  • c) Datblygu'r gallu i gymathu a chyfathrebu gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys TGCh.
  • d) Paratoi myfyriwr ar gyfer byd gwaith neu i wella ei ragolygon gyrfa o fewn gwaith presennol trwy ddatblygu sgiliau ymarferol, personol a throsglwyddadwy.
  • e) Gwneud y myfyriwr yn ymwybodol o gyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â materion iechyd a diogelwch, busnes, rheolaeth, amgylcheddol a chynaladwyedd ar lefel briodol.
Cynnwys y Rhaglen

Lefel 4: Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Mathemateg Peirianneg, Electroneg I, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy, Cyflwyniad i Raglennu C a Systemau wedi'u Mewnblannu, Offeryniaeth a Systemau Awtomatiaeth Integredig, Prosiect Peirianneg Drydanol ac Electronig HNC.

Lefel 5: Electroneg II, Mathemateg Peirianneg Bellach, Egwyddorion Trydanol, Dulliau ac Efelychu.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau HNC yn llwyddiannus yn cymhwyso myfyrwyr ar gyfer mynediad i gyrsiau HND/gradd mewn pynciau perthynol.  Mae gyrfaoedd sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r ddisgyblaeth hon yn cynnwys: Peirianneg Datblygu Trydanol ac Electronig; Peirianneg Dylunio; Peiriannydd Cynhyrchu (Gwerthiannau Technegol) a Thechnegwyr Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur.  Caiff Peirianwyr Trydanol ac Electronig eu cyflogi gan y diwydiant gweithgynhyrchu; y diwydiannau gwasanaethu; y lluoedd arfog, sefydliadau ymchwil a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dull asesu

Arholiad a hyd at ddau ddarn o waith cwrs ar gyfer modiwlau nad ydynt yn brosiectau. Cyflwyniad llafar ac adroddiadau prosiect ar gyfer y modiwl prosiect.

Gofynion Mynediad

Diploma Cenedlaethol Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig neu debyg, neu Safon Uwch mewn 2 bwnc addas (e.e. mathemateg, gwyddoniaeth, cyfrifiadura) gradd C neu uwch.  TGAU mathemateg, Saesneg ac un pwnc gwyddoniaeth gradd C neu uwch.

Costau Ychwanegol

Mae ffioedd addysg uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg. Y ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24 yw: Blwyddyn 1af £2,196, 2il Flwyddyn £2,097.

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.