Skip to main content

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 2 Flynedd

  • Campws y Graig

Mae Peirianneg Fecanyddol yn faes amrywiol a deinamig sy’n cwmpasu dylunio, dadansoddi, a gweithgynhyrchu systemau a dyfeisiau mecanyddol.   Mae’n cyfuno egwyddorion gwyddonol gyda sgiliau datrys problemau creadigol i greu datrysiadau arloesol sy’n effeithio ar amrywiol ddiwydiannau.

Nod cyffredinol y dyfarniad hwn yw datblygu sgiliau meddwl, ymarferol a phersonol y myfyriwr hyd eithaf ei allu neu ei gallu. Bydd y dyfarniad yn galluogi myfyrwyr i wneud cyfraniad i'r proffesiwn peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu ar lefel uwch dechnegydd. Bydd y dyfarniad rhan-amser, dwy flynedd hefyd yn galluogi myfyrwyr sy'n gweithio yn y diwydiant i ehangu eu sgiliau y tu hwnt i orwelion eu swyddi presennol gan felly wella eu rhagolygon gyrfa.

Nodweddion y Rhaglen

Mae cynnwys, deilliannau a chyflwyniad y cwrs yn:

  • Cyd-fynd ag anghenion diwydiant a chymdeithas yn gyffredinol
  • Cynnwys iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd.
  • Cadarnhau perthnasedd peirianneg ar gyfer datrys problemau’r byd go iawn
  • Gwella dealltwriaeth dysgwyr o’r prosesau dylunio sy’n berthnasol i beirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu
  • Darparu cymhwyster galwedigaethol perthnasol sy'n addas i fyfyrwyr ar gyfer cyflogaeth ehangach
  • Galluogi myfyrwyr i gyfathrebu a gweithio’n effeithiol gyda chyd-weithwyr proffesiynol
  • Darparu sylfaen ar gyfer datblygiad proffesiynol
  • Rhoi’r sgiliau dysgu angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer symud ymlaen naill ai i astudiaethau pellach neu ar gyfer dysgu gydol oes
  • Hyfforddi peirianwyr dechnegwyr i lefel fydd yn eu galluogi i weithio'n effeithiol yn y proffesiynau peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu
Cynnwys y Rhaglen

Mae enghreifftiau o unedau'r cwrs yn cynnwys: Arfer Proffesiynol Dylunio a Gweithgynhyrchu ar gyfer Peirianwyr, Mathemateg Peirianneg, Gwyddor Fecanyddol, Thermohylifau, Deunyddiau, Prosiect, Rheolaeth Busnes a Thechnoleg Drydanol ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau HNC yn llwyddiannus yn cymhwyso myfyrwyr ar gyfer mynediad i gyrsiau HND/gradd mewn pynciau perthynol.  Mae gyrfaoedd sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r ddisgyblaeth hon yn cynnwys: Peiriannydd Datblygiad Mecanyddol, Peiriannydd Dylunio Mecanyddol, Peiriannydd Cynhyrchu (Gwerthiannau Technegol). Caiff Peirianwyr Mecanyddol/Gweithgynhyrchu eu cyflogi gan y diwydiant gweithgynhyrchu, y diwydiannau gwasanaethu, y lluoedd arfog a sefydliadau ymchwil.

Dull asesu

Asesir y dyfarniad hwn trwy aseiniadau ac arholiadau diwedd modiwl. Asesir myfyrwyr hefyd mewn ystod o sgiliau cyffredin o fewn eu modiwlau technegol.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad.

Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad. Er nad yw'n ofyniad mynediad, mae'n fuddiol cael TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.

Cyfryngau cymdeithasol:

Facebook: https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

Instagram: https://www.instagram.com/feartanddesign_csoa/                    

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/

Costau Ychwanegol

Mae ffioedd addysg uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg. Y ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24 yw: Blwyddyn 1af £2,196, 2il Flwyddyn £2,097.

Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell). 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.