Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r rhaglen maes dysgu lefel 2 hon yn cynnwys NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg 64 credyd ac unedau sgiliau. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i fodloni ymgeiswyr sydd am symud ymlaen o Beirianneg Gyffredinol lefel 2 ond nad ydynt yn barod ar gyfer rhaglen lefel 3 ac sydd eisiau ennill cymwyseddau peirianneg lefel 2 mewn amgylchedd cysgodol sydd dan reolaeth.

Mae cyfle i ailsefyll TGAU Saesneg a Mathemateg ar gael gyda'r cwrs hwn, sydd yn ofynion hanfodol er mwyn symud ymlaen i gyrsiau peirianneg lefel 3.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ddarparu tystiolaeth eu bod yn gallu cyflawni swydd benodol neu sgil.

Mae’n darparu sylfaen dda gyda hyblygrwydd i ddiwallu arferion peirianegol cyfredol a rhai’r dyfodol hefyd.

Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi ymgeiswyr sydd am ennill cymwyseddau peirianneg mewn amgylchedd gwarchodol a rheoledig.

Mae’r llwybr dilyniant i brentisiaeth sylfaen a / neu lefel tri.

Hefyd anogir ymgeiswyr i ailsefyll TGAU mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth ble y bo’n briodol.

Cynnwys y Rhaglen

Yn cynnwys:

NVQ 64 credyd Perfformio Gweithrediadau Peirianneg EAL

Sgiliau Hanfodol Cymru

Arholiadau ailsefyll TGAU mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth ble y bo’n briodol. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae'r rhaglen hon yn darparu tystiolaeth eich bod yn gallu gwneud tasg neu sgil benodol i safon lefel 2 a gall eich helpu i symud ymlaen i fyd gwaith neu i NVQ/BTEC lefel uwch neu gymhwyster tebyg. Bydd yn datblygu dysgwyr sydd â sgiliau peirianneg eang a bydd yn eu helpu i benderfynu ar arbenigedd peirianneg penodol (h.y. mecanyddol neu drydanol).

Asesu'r Rhaglen

Asesu gwaith cwrs ymarferol yn barhaus a datblygu portffolio.

Gofynion y Rhaglen

Y gofyniad mynediad ar gyfer y dyfarniad hwn yw tystysgrif lefel dau ac o leiaf dau TGAU gradd C a dau ar radd D. Dylai hyn gynnwys mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf o leiaf ar radd D, ac mae derbyniad i’r cwrs hefyd yn amodol ar gyfweliad sy’n cynnwys prawf diagnostig.  Mae rhaid i ymgeiswyr ddangos y sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn ynghyd ag awydd brwd i ennill cymhwyster peirianneg. 

Costau Ychwanegol

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell) 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.