Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r rhaglen ddysgu lefel 2 hon yn cynnwys Tystysgrif City & Guilds L2 a Bagloriaeth Cymru L2. Cynlluniwyd y rhaglen hon i fodloni ymgeiswyr sydd eisiau symud ymlaen, ond nad ydynt yn barod am raglen lefel 3 ac sydd yn dymuno ennill cymwyseddau peirianneg lefel 2 mewn amgylchedd cysgodol, rheoledig.

Mae cyfle i ailsefyll TGAU Saesneg a Mathemateg ar gael gyda'r cwrs hwn, sydd yn ofynion hanfodol ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau peirianneg lefel 3.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ddarparu tystiolaeth eu bod yn gallu perfformio gorchwyl neu sgil benodol. Mae'n darparu sail dda gyda hyblygrwydd i fodloni arferion peirianneg presennol a rhai'r dyfodol

Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi ymgeiswyr sydd yn dymuno ennill cymwyseddau peirianneg mewn amgylchedd cysgodol a rheoledig

Mae'r llwybr dilyniant yn arwain at brentisiaeth sylfaen a / neu BTEC lefel 3. Caiff ymgeiswyr eu hannog hefyd i ailsefyll TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth lle bo'n berthnasol

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r rhaglen yn cynnwys ymdriniaeth o Dystysgrif L2 City & Guilds, Bagloriaeth Cymru L2 ac ailsefyll TGAU Mathemateg/Saesneg fel sy'n berthnasol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae'r rhaglen yn darparu tystiolaeth eich bod yn gallu gwneud gorchwyl neu sgil benodol i safon lefel 2 a gall hyn eich helpu i symud ymlaen i fyd gwaith neu i NVQ/BTEC lefel uwch neu gymhwyster tebyg. Bydd yn datblygu dysgwyr sydd â sail eang o sgiliau peirianneg ac yn eu helpu i benderfynu ar arbenigedd peirianneg penodol (h.y. mecanyddol neu drydanol).

Asesu'r Rhaglen

Asesu gwaith cwrs ymarferol yn barhaus, datblygu portffolio, aseiniadau a phrofion dosbarth.

Gofynion y Rhaglen

Y gofynion mynediad ar gyfer y dyfarniad hwn yw o leiaf un TGAU gradd C a dau ar radd D. Dylai hyn gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg Mamiaith/Saesneg gradd D o leiaf, ac mae derbyn yn amodol ar gyfweliad gan gynnwys profion diagnostig.

Rhaid i ymgeiswyr arddangos y sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn, gyda dymuniad brwd i gyflawni cymhwyster peirianneg.

Costau Ychwanegol

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell). 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.