Nod cyffredinol y dyfarniad hwn yw datblygu sgiliau meddwl, ymarferol a phersonol y myfyriwr hyd eithaf ei (g)allu. Bydd y dyfarniad yn galluogi myfyrwyr i wneud cyfraniad i'r proffesiwn peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu ar lefel uwch dechnegydd. Bydd y dyfarniad rhan-amser, dwy flynedd hwn hefyd yn galluogi myfyrwyr sy'n gweithio yn y diwydiant i ehangu eu sgiliau y tu hwnt i orwelion eu swydd bresennol ac felly gwella eu rhagolygon gyrfaol.
Rhan Amser
2 flynedd
Campws Graig
Mae cynnwys, deilliannau a chyflwyniad y cwrs yn:
Cyfateb i anghenion diwydiant a'r gymdeithas yn gyffredinol
Cynnwys iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd
Sefydlu perthnasedd peirianneg i ddatrys problemau yn y byd go iawn
Gwella dealltwriaeth dysgwyr o brosesau cynllunio perthnasol ar gyfer peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu
Cynnig cymhwyster galwedigaethol perthnasol sy'n addas ar gyfer cyflogaeth ehangach
Galluogi myfyrwyr i gyfathrebu a gweithio'n effeithiol gyda chydweithwyr proffesiynol
Darparu sylfaen ar gyfer datblygiad proffesiynol
Darparu sgiliau dysgu angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer symud ymlaen naill ai i astudiaethau pellach neu addysg gydol oes
Hyfforddi peirianwyr dechnegwyr i lefel a fydd yn eu galluogi i weithio'n effeithiol yn y maes peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu
Mae enghreifftiau o unedau'r cwrs yn cynnwys: Cynllunio a Gweithgynhyrchu Arfer Proffesiynol ar gyfer Peirianwyr, Mathemateg Peirianneg, Gwyddor Fecanyddol, Thermohylifau, Deunyddiau, Prosiect, Rheolaeth Busnes a Thechnoleg Drydanol ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol.
Bydd cwblhau'r HNC yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cyrsiau HND / gradd mewn pynciau cysylltiedig. Mae'r gyrfaoedd sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ddisgyblaeth hon yn cynnwys: Peiriannydd Datblygiad Mecanyddol, Peiriannydd Cynllunio Mecanyddol, Peiriannydd Cynnyrch (Gwerthiannau Technegol). Caiff Peiriannwyr Mecanyddol/Gweithgynhyrchu eu cyflogi gan y diwydiant gweithgynhyrchu, y diwydiannau gwasanaethu, y lluoedd arfog a chan sefydliadau ymchwil.
Asesir ar sail aseiniadau ac arholiadau ar ddiwedd modiwl ar gyfer y dyfarniad hwn. Asesir myfyrwyr hefyd mewn ystod o sgiliau cyffredin o fewn eu modiwlau technegol.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau'n llwyddiannus Dystysgrif/Diploma/Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn pwnc Peirianneg, AVCE neu Safon Uwch neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol. Gellir ystyried myfyrwyr hyn â phrofiad diwydiannol perthnasol heb y cymwysterau ffurfiol a nodwyd.
Mae ffioedd Addysg Uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).