Mae'r cwrs peirianneg fecanyddol hwn yn gwrs llawn amser blwyddyn o hyd yn y coleg sy'n cynnwys lleoliad gwaith o fewn y diwydiant.
Mae'r Diploma Atodol BTEC lefel 3 60 credyd mewn peirianneg yn ffurfio blwyddyn gyntaf y Diploma Estynedig llawn 180 credyd (ar gyfer dilyniant llawn amser) neu'r Diploma 90 credyd (ar gyfer dilyniant rhan-amser, fel prentis). Caiff sgiliau ymarferol eu datblygu gan ddefnyddio diploma NVQ lefel 2 64 credyd Perfformio Gweithrediadau Peirianneg EAL. Mae'r rhaglen ddysgu uwch hon yn cynnwys unedau sgiliau hanfodol lle bo hynny'n berthnasol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Bydd cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn barod ar gyfer gwaith ac wedi paratoi ar gyfer Prentisiaeth Fodern
Lleoliad gwaith gyda chyflogwr
Ymweliadau i godi ymwybyddiaeth o'r diwydiant
Cynnwys y Rhaglen
Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol
NVQ Lefel 2 Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol ble y bo’n berthnasol
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu sgiliau i chi allu symud ymlaen i brentisiaeth statws cyflogedig, neu'r Diploma Estynedig L3 llawn amser.
Asesu'r Rhaglen
Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Pum TGAU ar raddau A* - C i gynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf
Cyfweliad llwyddiannus yn dangos cymhelliant ac ymrwymiad i’r rhaglen a phrawf tueddfryd ac asesiad cychwynnol.
Costau Ychwanegol
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.