Dechreuodd Lynsey Davies, sy’n fam i ddau o blant, ei phrentisiaeth yn 35 oed pan benderfynodd newid gyrfa a dod o hyd i alwedigaeth yr oedd yn wirioneddol frwd amdani.
Mae hi bellach yn gweithio i Adran Gwasanaethau Adeiladu Cyngor Abertawe fel syrfëwr meintiau/amcangyfrifwr dan hyfforddiant ac mae eisoes wedi bod yn ymwneud â phrosiectau o gynlluniau Safon Ansawdd Cymru (WHQS) i ddatblygiadau newydd.
Mae’n gweithio ar hyn o bryd tuag at radd anrhydedd mewn mesur meintiau, fel rhan o’r Brentisiaeth Uwch, a ariennir gan CIOB. Bydd hi hefyd yn cwblhau modiwl rheoli prosiect lefel pump a redir gan Quals Direct.
Mae ei phrentisiaeth gyda Sgiliau Adeiladu Cyfle a chafodd ei chyfle mawr pan ddaeth y cwmni o hyd i leoliad iddi. “Rwyf bob amser wedi gweithio’n galed ac wedi gwneud yn dda yn fy holl swyddi, ond nid oedd yn ddigon” meddai Lynsey. “Roedd angen i mi deimlo'n frwdfrydig am fy ngwaith, ac yn sicr mae adeiladu wedi gwneud hynny i mi.”
Ychwanegodd Lynsey Davies: “Yn 39 oed, rydw i wedi cyflawni mwy yn y pum mlynedd diwethaf nag ydw i yn fy holl fywyd gwaith. Rwyf wedi ennill cystadlaethau, prentis y flwyddyn ar gyfer plastro a thechnegol, rwyf wedi bod yn gynrychiolydd myfyrwyr, wedi ymddangos ar y teledu i BBC Wales yn siarad am brentisiaethau, wedi cymryd rhan yn DIY SOS, a fy nghyflawniad mwyaf oedd mynd i Uganda am bythefnos gyda Cyfle lle adeiladon ni uned famolaeth.
“Mae fy lleoliadau i gyd wedi arwain at gyfleoedd gwaith ond fe wnes i barhau i newid fy lleoliadau i ennill mwy o brofiad.”