Skip to main content

Lefel 3 Cymorth Cyntaf yn y Gwaith

Cost y cwrs: £150

Disgrifiad o'r Rhaglen

Canfu astudiaeth y gallai 59% o farwolaethau a ddigwyddodd mewn gweithleoedd fod wedi cael eu hatal gan swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig. Gallai ymateb cyflym gan swyddog cymorth cyntaf olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Hyd yn oed ar gyfer anafiadau nad ydynt yn angheuol, gellir lleihau'r difrifoldeb a'r cyfnod adfer trwy roi cymorth cyntaf.

Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu rolau a chyfrifoldebau'r swyddog cymorth cyntaf, sut i asesu digwyddiad ac adnabod arwyddion a symptomau anafiadau ac afiechyd. Bydd dysgwyr yn cwmpasu sgiliau cymorth cyntaf mewn CPR a defnydd AED (Diffibriliwr Allanol Awtomatig.) Yn ogystal â, chynorthwyo claf sy'n dioddef o anaf difrifol ac afiechyd megis anafiadau i'r frest, anafiadau i'r asgwrn cefn ac anaffylacsis.

Asesir y cwrs hwn trwy arsylwi a chwestiynu ymarferol ac ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus bydd gan ddysgwyr y wybodaeth a'r sgiliau i roi amrywiaeth eang o dechnegau cymorth cyntaf yn y gweithle yn hyderus o drin mân glwyfau i achub bywydau cydweithwyr mewn sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd.

Cipolwg

  3 Diwrnod

  Yn Bersonol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd am ddod neu sydd wedi cael eu penodi i weithredu fel swyddog cymorth cyntaf yn eu gweithle. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldeb penodol i ddarparu cymorth cyntaf mewn gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol.

Gofynion Mynediad

Amherthnasol

Dilyniant

Gellir defnyddio’r cwrs Lefel 3 Cymorth Cyntaf yn y Gwaith fel cam tuag at gymwysterau eraill ar yr un lefel neu lefel uwch. Gallai hefyd fod o fudd i ddilyniant gyrfa'r dysgwyr yn eu proffesiwn perthnasol.

Cost

£150

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.