Mae’r cwrs hwn ar gyfer yr unigolyn sy’n bwriadu datblygu ei wybodaeth, a dysgu sut i atgyweirio ac ailosod systemau ar gerbyd Hybrid/Trydan.
Mae’r cwrs hyfforddi hwn yn cynnwys dwy uned orfodol EV2.2 ac EV3. Mae EV2.2 yn cwmpasu’r holl sgiliau a gwybodaeth o Ddyfarniad Lefel 2 IMI mewn Cynnal a Chadw Arferol Cerbydau Trydan/Hybrid.
Mae gweithgareddau ac EV3 yn cwmpasu sgiliau mewn: ● gweithio’n ddiogel ar gerbyd trydan/hybrid ● defnyddio gwybodaeth i wneud y dasg ● gwneud atgyweiriadau ar systemau trydanol ynni uchel ● cofnodi gwybodaeth a gwneud argymhellion priodol
O ganlyniad, bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn y llwyddiannus yn ennill gwybodaeth greiddiol a sgiliau sylweddol a’r gallu i dynnu ac ailosod cydrannau foltedd uchel cerbyd Trydan/Hybrid.
Cipolwg
2 Ddiwrnod
Pibwrlwyd, Caerfyrddin / SA1, Abertawe
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â diagnosio ac atgyweirio cerbydau hybrid a thrydan. Gallai hyn gynnwys technegwyr gwasanaethu ac atgyweirio, technegwyr diagnostig a thrydanwyr cerbydau modur.
Gofynion Mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn rhaid i ddysgwyr fod wedi cyflawni eu cymwysterau Lefel 3 Cerbydau Modur a Lefel 2 Atgyweirio ac Ailosod Cerbydau Hybrid Trydan.
Dilyniant
Dyfarniad Lefel 4 IMI mewn Diagnosio, profi ac atgyweirio cerbydau trydan/hybrid a chydrannau (dod yn fuan)
Cyflwynir gwaharddiad ar werthu ceir a faniau newydd petrol a diesel yn unig yn 2030. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen brys i fecanyddion ceir uwchsgilio er mwyn sicrhau cynaladwyedd a chyflogaeth hir dymor.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.