Trafod Rhewyddion Aerdymheru
Cipolwg
-
Rhan-Amser
-
2 Ddiwrnod
-
Campws Pibwrlwyd
Dyma gyfle i’r rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant cerbydau modur ddiweddaru eu sgiliau a’u datblygiad proffesiynol i ddysgu’r sgiliau sy’n ofynnol mewn perthynas â system aerdymheru cerbyd.
Mae deddfwriaeth yr UE yn ei gwneud yn ofynnol i bob technegydd sy'n ymwneud â gwasanaethu, ailwefru ac atgyweirio aerdymheru mewn cerbydau teithwyr a faniau ysgafn gael eu hardystio i wneud y gwaith hwn. Mae'r cwrs Trafod Rhewyddion Aerdymheru hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer technegwyr sy'n gwneud gwaith mewn perthynas â system aerdymheru cerbyd.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys gwybodaeth hanfodol am wasanaethu systemau aerdymheru cerbydau. Bydd cyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn gallu nodi holl brif gydrannau system aerdymheru fodurol a nodi eu swyddogaeth a dangos arferion gweithio diogel. Yn ogystal â, chwblhau gwasanaeth aerdymheru modurol nodweddiadol a deall gweithdrefnau iechyd a diogelwch y gwasanaeth aerdymheru.
Asesir y cwrs hwn trwy arsylwi a rhoddir tystysgrif Coleg Sir Gâr ar ôl ei gwblhau. Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd gan gyfranogwyr dystysgrif ddilys i weithio'n gyfreithiol ar systemau aerdymheru cerbydau modur.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer technegwyr cerbydau neu unrhyw un sy'n gweithio gyda systemau aerdymheru yn y diwydiant modurol. Gall hyn gynnwys unrhyw beth o garejys, mecanyddion symudol, gweithdai corff ceir, datgymalwyr modurol a gwerthwyr.
Bydd y meini prawf dethol ar gyfer mynediad yn ystyried cymwysterau academaidd/galwedigaethol a phrofiad presennol pob cyfranogwr. Dylai fod gan gyfranogwyr eisoes wybodaeth sylfaenol am weithrediad systemau aerdymheru sy'n cynnwys nwyon tŷ gwydr fflworinedig mewn ceir a faniau, effaith amgylcheddol rhewyddion nwyon tŷ gwydr fflworinedig, y rheoliadau a'r gweithdrefnau amgylcheddol cyfatebol ar gyfer adfer nwyon tŷ gwydr fflworinedig sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn golygu bod y cyfranogwr yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr UE. Gallai hyn arwain at ddilyniant o fewn y diwydiant modurol. Gallai hefyd agor llwybrau i hyfforddiant pellach megis hyfforddiant hybrid neu ADAS.
£500
Mae’n bosibl bod cyllid ReAct ar gael i unigolion cymwys ar gyfer ariannu’r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach ac i wirio cymhwyster.