Skip to main content

Pympiau Gwres NICEIC

Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae cwrs Pympiau Gwres Domestig yr NICEIC wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau perthnasol i beirianwyr gwresogi a phlymio i’w galluogi i: ddylunio, gosod, profi, comisiynu, trosglwyddo, gwasanaethu a chanfod diffygion mewn systemau pympiau gwres ffynhonnell daear ac aer.

Bydd y cwrs yn cynnwys gwybodaeth am ystod eang o bynciau gan gynnwys egwyddorion gweithio sylfaenol systemau pympiau gwres, gofynion rheoliadau/safonau perthnasol yn ymwneud â gosod ymarferol, profi, a gweithgareddau comisiynu ar gyfer gwaith gosod pympiau gwres, egwyddorion dylunio sylfaenol ar gyfer dyluniad cylched gasglu ‘dolen gaeedig’ pympiau gwres o’r ddaear a meintiau cydrannau, cynlluniau gosod cylchedau casglu ‘dolen agored’ pympiau gwres sy’n defnyddio dŵr, cyfrifiadau colli gwres dyluniadau ar gyfer anheddau domestig a chyfrifo allbwn ynni o reiddiaduron traddodiadol gan ystyried y lefel ynni is a gynhyrchir gan bympiau gwres.

Mae’r cwrs hwn wedi'i gynllunio, ac yn cael ei gyflwyno, yn unol â meini prawf diweddaraf NOS/QFC a gofynion cynllun MCS.

Cipolwg

 3 Diwrnod

  Pencadlys Thermal Earth, Capel Hendre

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer peirianwyr gwaith plymwr a gwresogi profiadol sydd am wella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o bympiau gwres gyda'r bwriad o wneud cais am gofrestriad Person Cymwys/MCS/y Fargen Werdd.

Gofynion Mynediad

Er mwyn mynychu, rhaid i chi feddu ar y canlynol:
● NVQ Lefel 2 mewn gwaith plymwr neu Gwresogi ac Awyru (domestig) neu gyfwerth
● Tystysgrif cymhwysedd ar gyfer gosod systemau dŵr poeth heb fentiau
● Cymhwyster Rheoliadau Dŵr a gymeradwyir gan WRAS
● Cymhwyster Effeithlonrwydd Ynni a roddwyd gan gorff achrededig 17024 UKAS
● Cymhwyster Iechyd a Diogelwch a achredwyd yn annibynnol sy'n cwmpasu Gweithio ar Uchder, CoSHH a chymwysterau Codi a Chario

Dilyniant

Bydd y llywodraeth yn darparu grantiau i annog perchnogion eiddo i osod systemau gwresogi carbon isel fel pympiau gwres, trwy'r Cynllun Uwchraddio Boeleri 2022 - 2025. Bydd y grantiau hyn yn helpu perchnogion eiddo i fynd i’r afael â’r gost ymlaen llaw sy’n gysylltiedig â thechnolegau gwresogi carbon isel. Bydd y cynllun yn agored i eiddo domestig ac annomestig bach yng Nghymru a Lloegr o 2022 - 2025.

Cost

Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.