Yn ôl y gyfraith, rhaid i weithredwyr busnes bwyd sicrhau bod trinwyr bwyd yn derbyn yr oruchwyliaeth a hyfforddiant priodol mewn hylendid bwyd. Hefyd, dyma’r cymhwyster diogelwch bwyd mwyaf poblogaidd a dderbynnir gan swyddogion gorfodi ac archwilwyr.
Mae pynciau a gwmpesir yn cynnwys pwysigrwydd gweithdrefnau diogelwch bwyd a chydymffurfio â'r gyfraith, peryglon microbiolegol, cemegol, ffisegol ac alergenig a'u rheoli, rheoli tymheredd yn dda a chylchdroi stoc. Pwysigrwydd hylendid personol da ac atal halogiad, gan gynnwys golchi dwylo, dillad amddiffynnol, briwiau a rhoi gwybod am salwch. Cadw mannau gwaith a chyfarpar yn lân ac yn ddiogel, cael gwared ar wastraff yn ddiogel a rheoli plâu.
Bydd dysgwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn yn gwybod bod diogelwch bwyd yn gyfrifoldeb ar bawb sydd yn ymwneud â storio, paratoi, darparu gwasanaeth coginio a thrin bwyd. Ystyrir ei phynciau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel rhai sy’n bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel. Gellir cyflwyno ac asesu'r cwrs hwn yn gyfan gwbl ar-lein neu wyneb yn wyneb. Dewiswch Arlwyo, Adwerthu neu Weithgynhyrchu wrth archebu.
Gellir cwblhau'r cwrs hwn ar-lein yn eich amser eich hun neu yn un o'n dosbarthiadau 1 diwrnod wyneb yn wyneb a gynhelir yn fisol mewn gwahanol ardaloedd.
Cipolwg
1 diwrnod neu 7 awr
Y Graig, Llanelli / Ffynnon Job, Caerfyrddin / Pibwrlwyd, Caerfyrddin, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin / Y Gelli Aur, Llandeilo / Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn amgylchedd arlwyo, adwerthu neu weithgynhyrchu sy’n gyfrifol am drin bwyd.
Gofynion Mynediad
Amherthnasol
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr am barhau â'u datblygiad trwy ymgymryd â Dyfarniad Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.